{"product_id":"9781845120559","title":"Ar Lafar, Ar Goedd","description":"Mewn tair ysgrif gydgysylltiol trafodir trefn a strwythur cymdeithasol cefn-gwlad de Ceredigion a’i ddulliau amaethu trwy graffu ar ymadroddion llafar y gymdeithas.\nYn yr ysgrif gyntaf dadleuir bod ymadroddion y ‘werin’ yn datgelu sut y gwêl y gymdeithas ei strwythur ei hun a’r categorïau sydd ganddi. Treiddia’r ymadroddion hynafol hyn trwy lafar y gymdeithas gyfan.\nTrafodaeth ar ystyr ‘gwerin’ sydd yn yr ail ysgrif a thrwy ddadansoddi’r modd y defnyddid y gair, a thrwy gymharu defnydd tebyg geiriau cyfatebol mewn ieithoedd eraill, ceir darlun o berthynas haenau cymdeithas â’i gilydd. Pan newidiodd natur y berthynas, cyfyngwyd ystyr y gair ‘gwerin’ i’r hyn ydyw heddiw.\nDechreua’r drydedd ysgrif gyda geirfa ffermydd ac eir ymlaen i ddisgrifio, ar sail llawer math o dystiolaeth, hanes dulliau amaethu a’r modd y trinid rhannau gwahanol o’r tir. Atgyfnerthir casgliadau’r awdur â mapiau, dogfennau a ffotograffau.\nYn 'Ar Lafar, Ar Goedd' gwelwn gymdeithasegydd proffesiynol yn trafod ei gymdeithas ei hun; cymdeithas sydd bellach wedi diflannu.","brand":"David Jenkins","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":52492606734600,"sku":"9781845120559","price":9.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0945\/8519\/2712\/files\/9781845120559.jpg?v=1770799245","url":"https:\/\/www.ffolio.wales\/products\/9781845120559","provider":"ffolio.wales","version":"1.0","type":"link"}