{"product_id":"9781784612498","title":"Taffia","description":"Mae Ditectif Danny Finch yn colli ei swydd ar ôl cael ei gyhuddo o dwyll. Mae’n colli popeth – ei swydd, ei bensiwn a’i hunan-barch. \n\nMae’n cael gwaith fel swyddog diogelwch i Pete Gibson, ‘dyn busnes’ lleol. Mae Danny’n chwerw tuag at yr heddlu ac yn cau ei lygaid i fusnes anghyfreithlon ei fòs. Ond ar ôl gwrthod cyfle i fod yn rhan o ‘fusnes’ Gibson, mae’r dihiryn yn cynllwynio yn ei erbyn. Un diwrnod daw’r heddlu i chwalu’r drws ffrynt, arestio Danny a’i wraig a chymryd eu mab, Owain, at ofal y gwasanaethau cymdeithasol…\n\nGyda themâu sy’n cynnwys twyll (ar lefel bersonol a sefydliadol), trais a dial, perthnasau, edifar a methiant, dyma nofel anturus fydd yn cyffroi darllenwyr ac yn eu darbwyllo i gadw ati i droi’r tudalennau. \n\nBydd  Danny Finch yn adnabyddus i rai o ddarllennwyr nofelau eraill Llwyd Owen, wrth iddo ymddangos fel cymeriad ymylol yn Mr Blaidd a Heulfan.","brand":"Llwyd Owen","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":52492547457288,"sku":"9781784612498","price":8.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0945\/8519\/2712\/files\/9781784612498.jpg?v=1770799392","url":"https:\/\/www.ffolio.wales\/products\/9781784612498","provider":"ffolio.wales","version":"1.0","type":"link"}