{"product_id":"9781784610425","title":"Cofiant Hedd Wyn","description":"Fersiwn newydd sbon o’r cofiant a gyhoeddwyd dan y teitl Gwae Fi fy Myw: Cofiant Hedd Wyn ym 1991 yw hwn. Nid ailargraffiad mohono.\n\nFfrwyth yr ymchwil a wnaed yn wreiddiol ar gyfer sgriptio’r ffilm Hedd Wyn oedd argraffiad 1991 o’r cofiant. Trwy gydol y blynyddoedd oddi ar hynny, bu Alan Llwyd yn darlithio ar Hedd Wyn a bu’n chwilio am ddeunydd a gwybodaeth newydd amdano ef a’i farddoniaeth trwy’r amser.\n\nMae’r fersiwn newydd hwn yn cynnwys llawer iawn o wybodaeth newydd am Hedd Wyn, fel y llythyr dadlennol a anfonodd o’r Ffrynt at Isaac Davies, Ysgrifennydd Eisteddfod Genedlaethol Birkenhead, ychydig wythnosau cyn iddo gael ei ladd. Beth yn union a ddigwyddodd yn Eisteddfod y Gadair Ddu? Sut effaith gafodd marwolaeth Hedd Wyn ar Gymru ar y pryd?","brand":"Alan Llwyd","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":52461962068232,"sku":"9781784610425","price":14.95,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0945\/8519\/2712\/files\/9781784610425.jpg?v=1770799305","url":"https:\/\/www.ffolio.wales\/products\/9781784610425","provider":"ffolio.wales","version":"1.0","type":"link"}