{"product_id":"9781783162338","title":"Pam Na Fu Cymru - Methiant Cenedlaetholdeb Cymraeg","description":"Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, Oes Cenedlaetholdeb, llwyddodd y rhan fwyaf o wledydd bychain Ewrop i feithrin mudiadau cenedlaethol llwyddiannus a fynnai warchod eu hieithoedd. Un o gwestiynau mawr hanes Cymru yw pam na ddigwyddodd hyn yn y wlad hon.\n\nPwyslais gwlatgarwyr Cymreig ar ryddfrydiaeth a radicaliaeth sy’n gyfrifol am y diffyg. Mae rhyddfrydiaeth yn hyrwyddo hunaniaethau mwyafrifol, ac mae’n rhan ganolog yng Nghymru o hegemoni Prydeindod. Roedd Cymru’r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn fwy rhyddfrydol nag odid yr un wlad arall yn Ewrop. Yn groes i’r dybiaeth gyffredin mai peth llesol oedd hyn i genedlaetholdeb Cymreig, dangosir yn Pam Na Fu Cymru mai hyn oedd yr union reswm am ei fethiant.","brand":"Simon Brooks","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":52016922099976,"sku":"9781783162338","price":16.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0945\/8519\/2712\/files\/9781783162338.jpg?v=1770799285","url":"https:\/\/www.ffolio.wales\/products\/9781783162338","provider":"ffolio.wales","version":"1.0","type":"link"}