{"product_id":"9781783160525","title":"Llên yr Uchelwyr - Hanes Beirniadol Llenyddiaeth Gymraeg 1300-1525","description":"Gwaith Beirdd yr Uchelwyr yn y bedwaredd ganrif ar ddeg a'r bymthegfed oedd uchafbwynt traddodiad barddol Cymraeg yr Oesoedd Canol. Dyma ailargraffiad y gyfrol gyntaf i gynnig darlun cynhwysfawr ac awdurdodol o lenyddiaeth y cyfnod hwnnw yn ei holl agweddau. Rhoddir ystyriaeth fanwl i rai o gewri'r cywydd megis Dafydd ap Gwilym, Iolo Goch, Guto'r Glyn, Dafydd Nanmor, Lewys Glyn Cothi a Thudur Aled, a sonnir yn ogystal am lu o feirdd mawr a man a'r tai lle caent groeso ar eu teithiau clera ar hyd a lled y wlad. Dyfynnir llawer o gerddi difyr, rhai ohonynt yn haeddiannol enwog ac eraill sy'n derbyn sylw yma am y tro cyntaf. Trafodir rhychwant eang o farddoniaeth, yn fawl a marwnad urddasol, yn ganu gofyn ffraeth, yn ganu crefyddol dwys, yn broffwydoliaethau gwleidyddol, yn ganu serch ac yn ganu dychan deifiol. Rhoddir cyfrif hefyd am y rhyddiaith amrywiol sy'n ddrych i ddiwylliant cyfoethog y cyfnod.","brand":"Dafydd Johnston","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":52492532351240,"sku":"9781783160525","price":29.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0945\/8519\/2712\/files\/9781783160525.jpg?v=1770799315","url":"https:\/\/www.ffolio.wales\/products\/9781783160525","provider":"ffolio.wales","version":"1.0","type":"link"}