{"product_id":"9780708324714","title":"Meddwl a'r Dychymyg Cymreig, Y: Llwybrau Cenhedloedd - Cyd-Destunoli'r Genhadaeth Gymreig i'r Tsalagi","description":"Mae’r llyfr hwn yn cyd-destunoli cenhadaeth Evan Jones i’r Tsalagi (Cherokee), a hynny trwy graffu ar destunau perthnasol mewn tair iaith – y Saesneg, y Gymraeg a’r iaith Dsalagi. Dehonglir hefyd y modd y trafodid brodorion America ar dudalennau gwasg Gymraeg yr Unol Daleithiau. Awgrymir bod y berthynas rhwng y cenhadwr Cymreig hyn a’r genedl frodorol yn stryd ddwyffordd: os oedd y Cymro hwn yn dylanwadu ar y brodorion, roedd diwylliant a bydolwg y Tsalagi yn dylanwadu arno yntau hefyd. Wrth drafod y prosesau hyn, defnyddir y ‘feirniadaeth frodorol’ a arloesid yn ddiweddar gan ysgolheigion sy’n perthyn i nifer o genhedloedd brodorol America.","brand":"Jerry Hunter","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":52492452200712,"sku":"9780708324714","price":9.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0945\/8519\/2712\/files\/9780708324714.jpg?v=1770799301","url":"https:\/\/www.ffolio.wales\/products\/9780708324714","provider":"ffolio.wales","version":"1.0","type":"link"}