An intriguing novel which is a skilful weave of striking images, providing the reader with a brief snapshot of the lives of a number of people on one particular day. We gradually come to realise that their lives are entwined, and the bond is a taut one which can't be broken ...
Mae Edau Bywyd, nofel gyntaf Elen Wyn, yn nofel fyrlymus ac amlochrog, ac yn cyflwyno hanes nifer o gymeriadau mewn cyfnod o bedair awr ar hugain. Mae’n sylwi ar y manylion sy’n ymddangos yn ddibwys ac yn eu clymu at ei gilydd. Nid oes 'prif gymeriadau' fel y cyfryw gan fod pob cymeriad yn datblygu’n rhan o’r darlun terfynol neu’r 'cwlwm'. Gellid dweud ei bod yn amhosib ei gosod mewn un genre benodol gan mai nofel am bobl yw hon, yn llawn cariad, tristwch, colled, gobaith ac obsesiwn.
Mae’r arddull anarferol o gyflwyno’r stori mewn penodau byrion, cynnil – fel llên meicro, bron – yn galluogi’r awdur i gyflwyno syniadau mewn ffyrdd cofiadwy sydd yn ailymddangos ymhellach ymlaen yn y nofel. Teimlaf fod yr adeiladwaith o gynnydd graddol yng nghymhlethdod y plot yn rhoi cyfle i’r darllenydd ddod i adnabod pob cymeriad ar wahân a dysgu mwy amdanynt trwy gydol y nofel.
Yn y pen draw, er ei bod yn llawn themâu cyfarwydd, teimlaf fod y nofel hon yn wahanol i unrhyw nofel Gymraeg arall yr wyf wedi ei darllen. Mae’r cyfuniad o ddirgelwch a dangos meddyliau mwyaf personol y cymeriadau'n rhoi persbectif hollol wahanol ac yn gwneud i ni'r darllenwyr ofyn pa mor dda yr ydym ni'n adnabod unrhyw un arall, mewn gwirionedd.
~Meinir Williams @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.