A young family move to a new area following a family tragedy. Will Glasynys, their new farm on the outskirts of Conwy, offer them hope for the future?
Pan wahoddwyd fi i adolygu Glasynys, yr hyn ddaeth i fy meddwl gyntaf oedd tybed lle aeth y copi o Gweledigaethau’r Bardd Cwsc ers i ni symud tŷ ryw dair blynedd yn ôl. Ond, gyda mawr ryddhad, cafodd y dasg o chwilota drwy focsys aros, a chefais ymgolli ym myd nofel annwyl Ann Pierce Jones.
Canolbwynt y byd hwnnw yw teulu’r Robertsiaid yn y degawd rhwng 1965 a 1975. Yn dilyn profedigaeth lem colli plentyn, mae’r teulu’n codi pac, yn gadael Llŷn ac yn cael eu trawsblannu i fferm Glasynys yn Nyffryn Conwy. Adlewyrchir y trawsblaniad hwn yn gynnil wrth i Guto, y tad, blannu amrywiaeth o flodau a choed yn yr ardd er mwyn ceisio codi calon ei wraig.
Llwyddir yn ardderchog i gyfleu naws y cyfnod drwy ymdrin yn onest ag agweddau’r gwahanol gymeriadau tuag at ddigwyddiadau gwleidyddol fel boddi Capel Celyn, yr Arwisgo a'r ymgyrch malu arwyddion ffyrdd. Mae salwch meddwl, a sut roedd yn bwnc tabŵ yn y cyfnod, yn thema sy’n rhedeg drwy’r stori. Yn gweu drwy’r cyfan mae caneuon poblogaidd y dydd, cyfeiriadau at lyfrau ac awduron ac eisteddfodau’r cyfnod.
Mae’r portreadau crwn a chredadwy o’r cymeriadau’n dangos adnabyddiaeth yr awdur o bobl. Cawn ein tywys drwy fywyd Emyr, y mab hynaf, o ddiniweidrwydd ei blentyndod, drwy ei lencyndod hyd at yr amser mae’n gadael cartref i fynd i’r coleg.
Darlunnir yn feistrolgar y newid graddol yng nghymeriad Guto. Mae iselder ôl-enedigaeth ei wraig yn fwrn ar ei ysgwyddau a daw o hyd i ddihangfa yn gyntaf dros beint yn y dafarn. Gydag amser, dechreua chwilio am ddihangfa a chyffro mewn unrhyw beth ond rhigol ei fywyd bob dydd – mewn cerddoriaeth glasurol, mewn poteli drud o win, ac ym mreichiau dynes arall.
Mae’n nofel lawn disgrifiadau cofiadwy, wedi ei hysgrifennu mewn iaith lân a rhwydd, gyda thafodiaith rymus Llŷn a’i dywediadau unigryw ar wefusau llawer o’r cymeriadau.
Cryfder pennaf y nofel, yn fy marn i, yw’r ffordd y mae’r awdur yn darlunio’r newid mewn cymdeithas wledig Gymreig yn ystod y degawd; degawd lle gwelwyd gafael tyn y capeli’n llacio a phethau mwy seciwlar yn hawlio’u lle; a sut mae hyn oll yn cael effaith ar safonau a bywyd y teulu bach.
Fel Ellis Wynne o’r Lasynys, mae Ann Pierce Jones hithau’n disgrifio cwrs byd ei phobl fel pe bai’n edrych arnynt drwy ysbienddrych.
~Bet Jones @ www.gwales.com
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.