A novel which will taken your breath away with its sensitivity and emotion. It presents a new perspective on one of life's big events - death.
Nofel am golled yw Gwirionedd gan Elinor Wyn Reynolds. Dilynwn daith y prif gymeriad drwy ei galar yn dilyn marwolaeth ei thad. O’r munudau olaf hyd at wasgaru’r llwch, rhannir y gyfrol yn dair rhan: 'Byw' sy'n trafod salwch a marwolaeth y tad, 'Marw', ei angladd a 'Byw Eto' sy’n ymdrin â’r golled.
Plethir myfyrdodau ac atgofion gyda disgrifiadau real a gonest o geisio byw bywyd o ddydd i ddydd, gan ddygymod â cholli rhywun ar yr un pryd. Drwy ysgrifennu cain, agos atoch yn nhafodiaith Sir Gâr, llwydda Elinor Wyn Reynolds i gyfleu profiadau amrywiol a dirdynnol yn llawn.
Yn wir, gallwn uniaethu’n llwyr gyda’i disgrifiadau a’i theimladau, yn arbennig wrth iddi ymgymryd â’r tasgau sy’n glwm â cholled o’r fath: y rheidrwydd i gofrestru’r farwolaeth yn swyddogol, cau cyfrifon banc, clirio’r tŷ. Ceir yma ddisgrifiadau ingol a hardd a lwydda i ddeffro atgofion a theimladau yr oeddwn wedi eu hanghofio’n llwyr.
Ond nid nofel drom yw hon, er gwaethaf tristwch a dwyster y themâu a drafodir. Gan nad oes penodau fel y cyfryw, mae’r gwaith yn llifo’n ysgafn a rhwydd. Yn britho’r gyfrol hefyd mae yna hiwmor a chyffyrddiadau direidus annisgwyl, gan sicrhau nad yw’r nofel yn teimlo’n feichus a digalon.
Does yna ddim gwrthdaro amlwg, tensiynau enbyd neu ddatgelu cyfrinachau mawr, annisgwyl. Drwy ganolbwyntio’n llwyr ar y profiadau bob dydd cyffredin – ond eto cwbl anghyffredin – sy’n glwm â cholli rhywun sy’n annwyl, ceir cyfle i archwilio galar a’i effaith yn llawn ar y prif gymeriad a’r teulu. Dyma nofel sydd, o ganlyniad, yn gorlifo â chariad a chynhesrwydd.
Llwyddodd y gyfrol hon i’mhudo'n llwyr a hynny drwy ei disgrifiadau tyner a theimladwy a’i hysgrifennu hardd a chwareus. Mae Gwirionedd yn archwiliad llawn dyfnder o alar a cholled ond yn fwy na hynny, yn ddathliad addfwyn a llon o’r cariad sy’n clymu teulu ynghyd.
~Mari Siôn @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.