What better present for that special day for Welsh lovers, St Dwynwen's Day or Valentine's Day? This volume of short stories is all about love and is an interesting mix of romance and reality. The authors who have contributed to the book are Tony Bianchi, Guto Dafydd, Bethan Gwanas, Eurgain Haf, Llio Mai Hughes, Bet Jones, John Gruffydd Jones, Sian Rees and Marlyn Samuel.
Cariad. Mae’n gadael ei flas a’i farc ar bob yr un ohonon ni. Mae’n croesi cenedlaethau, cyfandiroedd ac ystrydebau – yn union fel y gwna'r gyfrol hon. Rydyn ni ar drothwy Dydd Santes Dwynwen ac mae’r gyfrol hon yn gwtsh cynnes i’w gael ar y soffa, ond ni chewch yr hyn a ddisgwyliwch.
O’r cychwyn cyntaf, mae'r darllenydd yn sylweddoli nad sothach sopi sydd yma. Mewn stori am ddial mewn pentref glan-môr, sydd yn gadael blas go hallt ar eich gwefusau, mae mwy i hon na rhamant. Ceir fflyd o straeon gan naw awdur gwahanol ac maent yn cyffwrdd â chariadon ifanc a hen, a'r pellter poenus sydd rhyngddynt ar brydiau, ynghyd â chariad tragwyddol, tor cariad a’r cariad hwnnw sy’n dinistrio ffiniau.
Mae’r gyfrol yn gymysgedd o gyfnodau mewn hanes. Mae’r darllenydd yn plymio i ddegawdau ac i amseroedd tra gwahanol ymhob stori, gan gynnwys elfen o gariad mewn modd cynnil ac amlwg yr un pryd. Yn 'Y Dderbynwraig', trwy gymeriad cymhleth y Parchedig Emyr Jackson, mae Guto Dafydd yn cyferbynnu cyfrifoldeb caeth a cheidwadol y capel â chwant cnawdol sy’n gallu ymylu ar ffieidd-dra, ac yna daw cariad diffuant – yn annisgwyl – i’r amlwg i orchfygu’r cwbl. Mae sawl haen i’r stori hon ac yn wir i'w phrif gymeriad, Emyr.
Aiff Bethan Gwanas â ni i Gartref Henoed Bryn Dedwydd yn 'Elen, tyrd yn ôl', lle mae rhywbeth yn hyfryd, hiraethus ac yn hynod o drist a hapus wrth ddarllen am Elwyn, o’i gadair freichiau, yn gweld Elen am y tro cyntaf ers amser maith. Wrth i’w stumog chwyrlïo a’i galon lamu’n afreolus unwaith eto, ai dryswch meddwl hen ŵr sydd yma? Mae calon y darllenydd yn llamu o dosturi ac eto’n meddalu o glywed yr union beth mae Elwyn yn ei weld, ei deimlo ac yn gobeithio amdano unwaith eto, sef cariad pur.
Mae’r gyfrol hon yn llwyr haeddiannol o gael ei dewis yn Llyfr y Mis gan gwmni Waterstones, un o lyfrwerthwyr mwyaf Prydain, a'r llyfr cyntaf erioed yn yr iaith Gymraeg i ennill y teitl. Do, mae’r awduron hyn wedi codi eu saethau Ciwpid, wedi'u hanelu at diroedd diderfyn cariad ac wedi chwalu sawl ffin.
~Llinos Griffin @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.