Summer is the theme of this volume of short stories which makes an ideal holiday read. Stories by Mari Gwilym, Annes Glynn, Aled Islwyn, Lleucu Roberts, Haf Llewelyn, Rhian Owen, Non Tudur, Llio Maddocks, Heiddwen Tomos, Gareth Evans-Jones and Gwen Lasarus. Lasarus.
Wrth ddechrau darllen, wnes i ddim talu digon o sylw i’r marc cwestiwn ar ddiwedd teitl y gyfrol hon. Oherwydd, er bod yr haf yn gefndir i bob stori, nid cyfres o straeon ysgafn, llawn haul, gwyliau a hwyl sydd yma. Yn hytrach, mae yma gyfres o straeon difyr a heriol ar amryw o bynciau, o fam-gu sydd wedi cael llond bol ar fyw ei bywyd yn ôl disgwyliadau ei theulu, i gyfeillgarwch cymhleth tair rhedwraig, a phob un â'i chyfrinach; o ddieithryn sy’n gosod posau geiriol, i gystadleuaeth goginio sy’n esgor ar ganlyniad annisgwyl i ddau o’r cystadleuwyr.
Yn gyffredin i bob stori ceir elfen o anfodlonrwydd; rhywbeth anghyfforddus, anniddig. Dyma’r marc cwestiwn yn y teitl, a dyna sy’n odidog am y gyfrol. Mae rhywbeth ar goll ym mywydau nifer o’r cymeriadau ac mae’r gwacter yna’n drawiadol. Mae’r straeon yn adlewyrchu natur chwerwfelys bywyd bob dydd, ac mae hynny’n arwain at straeon heriol a hynod ddiddorol. A gwnaeth yr elfen o amwysedd yn niweddglo pob stori wneud i mi bendroni’n hir dros rai ohonyn nhw.
Mae gen i fy ffefrynnau o blith straeon y gyfrol, gydag ambell stori'n apelio oherwydd ei harddull yn ogystal â’r cynnwys. Ond dyna yw cryfder cyfrol o’r math yma – mae yna rywbeth sy’n sicr o apelio at bob darllenydd. Os nad ydych chi’n hoff o un stori, yna o fewn ychydig dudalennau cewch un sy’n fwy at eich dant.
Efallai nad llyfr hafaidd yw hwn o ran y cynnwys, ond mae’n gyfrol y gallwch chi ei mwynhau ar eich gwyliau, serch hynny, a'i darllen ar un eisteddiad neu bori ynddi bob hyn a hyn, ond byddwch yn barod i gael eich herio.
~Cerian Arianrhod @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.