Clive Beaumont received a diagnosis of early dementia when he was 45 years old, and his children only three and four years old. This story, written by his wife, aims to help younger people with dementia, their families, friends and carers, and to give them encouragement.
Cafodd Clive Beaumont ddiagnosis o ddementia cynnar pan oedd yn 45 oed, a'i blant ddim ond yn dair ac yn bedair oed. Roedd Clive yn cael mwy a mwy o drafferth i wneud ei waith yn iawn ac roedd wedi colli'i swydd yn y Fyddin y flwyddyn gynt. Mae ei wraig, Helen, yn sa'n am sut y llwyddodd hi a gweddill y teulu i fynd drwy'r chwe blynedd nesaf, nes i Clive farw: yr her o addasu wrth i'w gyflwr waethygu; gorfod delio aA goblygiadau cyfreithiol y salwch; gwneud cais am fudd-daliadau; chwilio am gartrefi nyrsio; a delio aA'i chyfrifoldebau fel gwraig, mam a gweithiwr. Mae hi hefyd yn disgrifio'i thristwch a'i hofn wrth i'w gwr, a oedd yn un mor addfwyn, i ddod yn fwy a mwy anwadal a threisgar wrth i'w iechyd ddirywio. Mae'r stori hon yn helpu pobl iau aA dementia, eu ffrindiau, eu teuluoedd a'u gofalwyr, ac yn eu hannog.
~Cyhoeddwr: Graffeg
Dyma lyfr gonest sydd yn eich croesawu i fywydau’r cwpwl Clive a Helen Beaumont. Ar hyd daith y llyfr rydych yn teimlo eich bod yn cael cyfle i ddod i adnabod y ddau ohonynt, ac yn enwedig Clive. Fe â’r llyfr â chi yn ôl ac ymlaen rhwng bywyd cyn dyfodiad y dementia, bywyd cyn y diagnosis a bywyd wedi'r diagnosis, a phob cam wedi'i ddisgrifio mor onest nes eich bod yn teimlo fel petaech chi'n rhan o’u taith. Mae mewnwelediad o’r math yn brin, yn enwedig i fywyd rhywun sydd yn byw â dementia cynnar, neu fywyd unigolyn sy'n byw gyda rhywun â dementia cynnar. Mae’r rhwystredigaeth, yr holl gwestiynau a’r ansicrwydd, i’w weld yn glir.
Rhannir y llyfr yn 10 pennod ac er bod y llyfr yn mynd â chi ar daith o’r cychwyn i’r diwedd, fel petai, un peth sy’n drawiadol ydi bod pob pennod yn cychwyn gyda Helen yn edrych yn ôl ar gyfnod cyn y diagnosis ac yn aml, yn drawiadol, gwelir gwrthgyferbyniad rhwng personoliaeth Clive cyn iddo gael dementia ac wrth iddo ddioddef o’r salwch.
Mae’r llyfr yn un gafaelgar sydd yn eich tynnu i mewn, ac ar adegau roedd yn anodd rhoi’r llyfr i lawr. Fe fydd gonestrwydd amrwd Helen yn aros yn y cof am oriau wedi cau’r cloriau. Mae dirywiad Clive yn amlwg drwy’r llyfr ac mae poen Helen yn ymddangos yn aml, er nad yw bob tro wedi ei hysgrifennu’n blaen mewn du a gwyn. Mae’r boen yn aml yno o hyd ond weithiau mae’n rhywbeth sydd y tu hwnt i’r hyn rydych yn ei ddarllen.
Mae codi ymwybyddiaeth o ddementia cynnar yn rhywbeth nad yw’n digwydd yn aml gan ei fod yn gyflwr prin. Braf yw darllen llyfr sydd yn rhoi mewnwelediad, ond eto yn nodi’r holl waith gwych a ddaeth ynghlwm â'r Clive Project, ac mae’n dda clywed fod y prosiect hwnnw'n dal i fynd o nerth i nerth.
Teimlaf fod Helen yn cloi’r llyfr mewn ffordd hynod o effeithiol a hynny drwy grynhoi o’i phrofiadau ei hun yr hyn y buasai hi’n ei awgrymu i eraill sydd mewn sefyllfa debyg, ac yn sicr mae’r 8 awgrym yn rhai a all fod o fudd mawr i deuluoedd.
Buaswn yn awgrymu i bawb, os yw’r cyflwr yn rhywbeth sydd yn agos i chi ai peidio, droi at ddarllen y llyfr hwn gan fod llawer iawn i ddysgu oddi wrth stori Clive a Helen, ac mae dawn Helen i ddweud y stori honno yn ei geiriau ei hun yn werthfawr iawn.
~Mirain Llwyd Roberts @ www.gwales.com
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.