A powerful, gripping novel to pull at the heartstrings. It is dangerous to keep old secrets. Will Now and Lois pay the price for the actions of their parents? Although a sequel to Mynd Adra'n Droednoeth, this novel is a complete story in its own right.
Nofel am gariad anghyfreithlon, gwyrdroëdig ac obsesiynol a geir yma, a go brin y gallai peth felly arwain at ddiweddglo hapus. Na, fel sydd i’w ddisgwyl, distryw yw’r canlyniad ac mae gweithredoedd y ddau brif gymeriad yn effeithio’n negyddol ar bob un o gymeriadau’r nofel. Er bod iselder, hunanladdiad a gwallgofrwydd oll yn hawlio’u lle, dyw’r nofel ddim yn gadael y darllenydd yn teimlo’n anobeithiol o ddigalon wedi’r darllen. Dyna grefft yr awdures – yn gelfydd o gynnil, llwydda i gadw’n driw i’w hunig linyn storïol heb ganiatáu inni dosturio’n ormodol wrth y cymeriadau a’u sefyllfa anffodus.
Mae prif gymeriad benywaidd y nofel, Lois, yn benderfynol o ddilyn ei greddf naturiol heb feddwl am yr oblygiadau ac fe’i portreadir hi, yn hytrach na phrif gymeriad gwrywaidd y nofel, sef Now, fel yr un gynllwyngar, y dwyllwraig sy’n hudo’i hysglyfaeth i’r gwely. Er nad yw anffyddlondeb priodasol yn mennu dim ar yr un o’r ddau, mae Now yn ceisio arddangos rhywfaint o hunanreolaeth, a chlywn ef yn ceisio rhesymu, anghofio a symud ymlaen, ond go dila yw ei ymdrechion mewn gwirionedd.
Archwilir cyflwr priodasol Now ac Alis a Lois a Robat, ynghyd â pherthynas y ddau ‘gariad’, trwy gyfrwng cyfres o benodau byrion, gyda phob pennod yn cyflwyno safbwynt cymeriad unigol. Symudir yn ddiffwdan o un cyfnod i’r llall, ac yn ôl drachefn, heb achosi unrhyw ddryswch i’r darllenydd. Y mae symboliaeth y ‘glaw trana ... yn ffresio pob dim’ yn creu undod, ac mae brwydr fewnol Now yn cael ei disgrifio yn gyson trwy gyfrwng cymhariaethau cofiadwy, megis ‘Roedd angerdd ar y naill law a hunanffieidd-dra ar y llall yn ymladd â’i gilydd fel dwy sarff yn ei berfedd.’ Mae’r arddull a’r ieithwedd yn gyhyrog heb fod yn hen ffasiwn: ‘Trawodd ei ergyd yn galetach nag unrhyw beltan. Mi fasai cic yn fy môls wedi bod yn ffeindiach.’
Esbonia’r broliant mai dilyniant yw Glaw Trana i’r nofel Mynd Adra’n Droednoeth, ond na phoener os nad ydych wedi darllen y nofel ragorol honno. Gellir mwynhau a gwerthfawrogi Glaw Trana fel stori gwbl annibynnol. Efallai fod amgylchiadau’r garwriaeth a bortreadir yn anghyfarwydd ac annhebygol, ond does dim amheuaeth fod hon yn nofel afaelgar sy’n werth ei darllen.
~Elin Bishop @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.