Lena is a rare bird indeed - a young Welsh woman who now works for the FBI. But in this exciting thriller, Lena finds herself facing her most dangerous enemy back home in Wales.
Mae Lena yn aderyn prin. Yn Gymraes Gymraeg o'r Waunfawr, hedfanodd ymhell i Washington lle llwyddodd i gael ei derbyn fel un o swyddogion yr FBI. Fel unrhyw aderyn prin caiff ei gwarchod. Caiff hefyd ei hela.
Dydw i ddim wedi bod yn gyffyrddus erioed yn darllen nofelau cyffrous gyda chefndir Americanaidd yn Gymraeg. Dyna i chi, er enghraifft, The Silence of the Lambs gan Thomas Harris. Fedra i ddim dychmygu Clarice Starling na Hannibal Lecter yn siarad iaith y nefoedd. Eto i gyd, mae Elen Wyn wedi llwyddo yma i gyflwyno i ni ein Clarice Starling ni ein hunain, sef Lena.
Oherwydd amgylchiadau teuluol fe symudodd Lena i fyw at Anti Sali yng ngwlad Wncwl Sam. Yno mae hi a'i chyd ex-pats yn ceisio glynu wrth y traddodiadau Cymraeg a Chymreig. Mae dathliad Gŵyl Ddewi Cymdeithas Gymraeg Washington D.C. yn taro deuddeg ... ond pediwch â dweud hynny wrth Lena gan fod ganddi ffobia rhifol!
Buan y gelwir ar Lena i chwilio am faban a herwgipiwyd. Dengys ei gallu i drafod â'r wraig a'i herwgipiodd, gan iddi achub y baban. Ond gelwir hi adref yn sydyn wedi i'w mam ddioddef salwch. Yn ôl yn nhawelwch gogledd Cymru rhaid iddi wynebu perygl sydd lawer mwy difrifol nag unrhyw berygl a wynebodd yn ei gwlad fabwysiedig.
Mae hon yn nofel sydd yng nghanol traddodiad dirgelwch a datrys. Mae yma fwy o glymau nag a geir mewn llond dysgl o sbageti. Mae'r cyferbyniad rhwng golygfeydd ac arferion y ddwy wlad yn hynod effeithiol. Mae yma ôl ymchwil trylwyr i orchwylion yr FBI heb i ni deimlo ein bod ni'n cael ein haddysgu.
Yn ganolog i'r cyfan mae clymau tynnach na chlymau dirgelwch. Clymau teuluol yw'r rheiny, clymau a gadwodd hen gyfrinachau'n ddiogel. Ond o dipyn i beth mae'r clymau yn y ddau achos yn datod, gan ddatgelu digwyddiadau a fu'n gudd am flynyddoedd.
Mae hon yn nofel sy'n canlyn rysáit angenrheidiol pob nofel gyffrous lwyddiannus. Mae hi'n symud yn gyflym gyda digon o sgadan coch i agor siop bysgod. Mae'r arddull yn llifo a'r disgrifiadau'n ddiwastraff. Mae'r prif gymeriadau'n bobl cig a gwaed, pobl y medrwch gydymdeimlo â nhw, hyd yn oed ambell un sydd wedi troseddu.
Dyma i mi y math o nofel y mae mawr angen amdani yn Gymraeg, nofel sy'n cynnig dihangfa o fywyd bob dydd. Ac yn y byd sydd ohoni, Duw a ŵyr fod arnom angen y fath ddihangdod.
~Lyn Ebenezer @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.