Winner of the Prose Medal at the 2017 National Eisteddfod, being a collection of six short stories about relationships and the tenderness and brutality of love.
Mae Sonia Edwards yn awdur sydd wedi hen ennill ei phlwyf ym myd llenyddiaeth Gymraeg, a chaiff ei hadnabod am ei harddull deimladwy, sensitif. Braf oedd ei gweld hi'n codi ar ei thraed i dderbyn y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Môn eleni, a hithau'n un o bobol gwlad y medra. A bobol, mae hi'n medru! Mae ei chyfrol o straeon byrion, Rhannu Ambarél, eisoes wedi ennyn ymateb ffafriol iawn, a darllenwyr wedi eu swyno gan gynildeb hyfryd ei straeon.
Er bod arddull gyfareddol ac unigryw'r awdur yn gyson drwy'r straeon, mae amrywiaeth mawr mewn tôn ac awyrgylch o stori i stori. Mae tueddiad, boed hynny'n ymwybodol ar ran yr awdur ai peidio, i ysgrifennu am wahanol bynciau tabŵ – affêr rhwng myfyrwraig a'i thiwtor; hen ŵr yn cymryd cyffuriau anghyfreithlon i leddfu poen; profedigaeth. Er bod y rhain yn bynciau mawr, mae'r straeon a'r cymeriadau yn gwbl gredadwy.
Tuedda'r awdur i graffu ar fanylion bychain bywyd bob dydd ynghanol y sefyllfaoedd mawr yma o newid byd – a dyna ddod at symboliaeth yr ambarél. Mentraf ddweud na fydd unrhyw un a ddarllena'r straeon yma yn gweld yr eitem hon yn yr un ffordd eto. Mae'n symbol o agosatrwydd ac, wrth gwrs, yn eich diogelu rhag pob math o dywydd mawr.
Caiff Sonia Edwards ei hadnabod am ei throsiadau a'i chymariaethau trawiadol, ac mae'r rheiny'n frith drwy'r straeon yma. Disgrifir alawon fel 'pethau crwydrol, cyntefig fel y tonnau, yn aros 'run fath ond yn newid o hyd'. Wrth wneud paned, bydd 'sŵn y sarff o deciall yn chwythu'n biwis'. Byddai'r cyffyrddiadau barddonol yma yn gallu amharu ar lif y stori a theimlo braidd yn drwm, ond mae hynny'n cael ei osgoi am fod y ddeialog yn llifo mor hawdd. Mae lleisiau'r cymeriadau yn gwbl glir ac mae'r ieithwedd a'r geiriau yn gyfarwydd i ni i gyd.
A dyna yw hanfod hyfryd a chyfareddol Rhannu Ambarél. Mae'n cymryd cymeriadau a sefyllfaoedd sy'n gyfarwydd i ni i gyd, ac yn craffu arnyn nhw mewn manylder cain, barddonol, bendigedig. Dyma straeon fydd yn aros ym meddwl pob darllenydd am amser hir.
~Manon Steffan Ros @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.