The first volume of poetry by Guto Dafydd, crowned bard of Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Sir Gâr 2014, reflecting the experience living through the medium of Welsh in contemporary Wales.
Syrffio
Yng nghlochdai Bangor
Twll yn y wal
Eiddil
Llanw
Rhwng dau olau
O'r dwfn
I Mam a Dad, i ddiolch am fwrdd cegin
Jarman
Cenfigennu wrth Lywelyn Goch ap Meurig Hen
Pompeii
Ni
Bardd serch
Blodeuwedd
I Elis, fy mrawd bach, yn 21
Pan fydda i'n hŷn
Ar ffordd osgoi Porthmadog
Y storm
Glynllifon
Eos
Ar Google Maps
#selfieargoparEifl
Agos
Yn nhoiledau'r Maes Carafanau
Berlin
Imbongi Cymraeg mewn pyb
Hwiangerdd
Llyfr Coch Hergest
Bwlch-llan
Y gelyn yn Costa
Arwriaeth
Leonard Cohe
Tryweryn
I Cit Parry'n 90 oed
Creisis hunaniaeth mewn tŷ gwydr
Marwnad Tu Chwith
Breichled
Plas
Y ffibromatosis ymosodol dan fy nghesail
Hiraeth am Dŷ Newydd
Y Diff(yg)
Trydar
Rhagot
Dan Ddylanwad
Yn angladd Gerallt
Achub Pantycelyn
Tyrd
Bu 2014 yn flwyddyn fawr i farddoniaeth Gymraeg. Arwydd o hynny yw’r cerddi rhagorol a enillodd y Gadair a’r Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Ac er na chyhoeddwyd ond rhyw hanner dwsin o gyfrolau o farddoniaeth yn ystod y flwyddyn, rhaid dweud eu bod o ansawdd uchel iawn. Credaf fod tri o’r beirdd hyn (Rhys Iorwerth, Guto Dafydd a Llŷr Gwyn Lewis) wedi cyhoeddi eu cyfrolau cyntaf, ac mae hynny yn argoeli'n dda iawn ar gyfer y dyfodol.
Mae Guto Dafydd ymysg yr ychydig feirdd a gyhoeddodd gyfrol eleni nad yw’n byw yng Nghaerdydd. Rhaid bod y ffaith honno yn ei thro yn dweud rhywbeth wrthym am natur y gymdeithas Gymraeg ei hiaith heddiw.Yn wahanol i’r lleill fe arhosodd ef ym Mhen Llŷn:
Ond yma yr ydw i, yn gwrthod gwawdio,
yn rhy ddiog, wreiddllyd i symud,
yn gobeithio gwneud goleuni
yn y tir gwag, oer
hwn.
Nid fod y darlun o Ben Llŷn mor dywyll â hynny bob tro. Mewn cerdd arall cyfeirir at y fangre fel ‘lle addfwyn hardd’.
Ond bregus yw’r cymunedau Cymreig a ddisgrifir ganddo. Un o’r ardaloedd hynny oedd Tryweryn ac fe ddywed y bardd yn drawiadol iawn am y lle: ‘Piclwyd yno ffordd o fyw’. Yn wir, mae’n bosib mai yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn unig y cawn ni unrhyw beth sy’n ymdebygu i fywyd cyflawn trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn nhoiledau’r Maes Carafanau yno byddwn yn ‘gollwng ein rhwystredigaeth a’n hofn i danc septig ...’
Yn ei gerdd deyrnged i John Davies, Bwlch-llan fe ddywed fod ‘hanes gwlad yn gyflawn yn ei ben’.
Gellid dweud bod hynny yn wir am y bardd ei hun i raddau helaeth. Ymddengys ei fod wedi ei drwytho ei hun yn ein chwedloniaeth, ein barddoniaeth a’n hanes gan fod ei gerddi'n frith o gyfeiriadau sydd wedi eu codi o’n traddodiad llenyddol.
Bregus yw ei obeithion am ddyfodol y Gymraeg a’r cymunedau hynny lle siaredir y Gymraeg, fel y gwelsom. Mae yna ambell fflach er hynny, fel y gwelwn o’r gerdd ‘Achub Pantycelyn’:
Saif y muriau’n brawf nad yw darfod
yn fiwrocrataidd o anorfod.
Ychydig o’r gobaith yna sydd yn ei gerddi er hynny, a thrawiadol yw ei ddisgrifiad o’r genedl fel ‘ni sy’n chwysu ar yr allt ond yn ofni’r copa’ a ‘ni sy’n fflyrtio â rhyddid gan lyfu’n cadwyni’.
Nid Cymru yn unig sy’n wynebu dyfodol ansicr. Yn y gerdd ‘Agos’, sy’n trafod y sefyllfa yng Ngogledd Iwerddon, dywedir:
mae rhyfel mor agos
â rasel ar arddwrn.
Mae hogiau tracwisg yn dawnsio ar do’r bys-stop.
Os mai’r dyfodol sy’n ansicr yng Nghymru a Gogledd Iwerddon, yna’r gorffennol sy’n bwrw ei gysgod dros yr Almaen. Dywedir i ddwy ran o dair o wragedd Berlin gael eu treisio gan filwyr Rwsiaidd ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd a dyna a geir yn y gerdd i’r hen wraig ar yr U-Bahn yn y ddinas honno:
Clyw’r concrit yn tynhau.
Gwinga: ai dyna sŵn byddinoedd
yn cau am y ddinas, yn closio
at ei chell i’w dal
yn welw rhwng wal a gwn?
Bardd ifanc, ymwybodol iawn o’i feidroldeb sydd yma. Trawiadol yw’r sylw mai ‘dim ond tenant ydw i yn y cnawd hwn’.
Dewch i ni obeithio na fydd i lesgedd na henaint ei lethu am beth amser eto ac y bydd Guto Dafydd yn parhau i gyfoethogi ein llenyddiaeth am gryn amser. Mae’r gyfrol gyntaf hon o’i eiddo yn ernes fod dyfodol disglair iawn o’i flaen fel bardd.
~Dafydd Morgan Lewis @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.