From the bestselling author of Dirty Bertie, suitable for children aged 7 years+ and Key Stage 2. Stan Button had always dreamed of becoming a superhero. Then one day a letter arrives inviting him for an interview at the mysterious Mighty High School. To his amazement, Stan is offered a place - starting immediately. Really funny book and the start of an exciting new series.
Bwriad y llyfr yma yw gwneud i blant chwerthin yn uchel. Mae’n gwneud hynny’n dda iawn. Mae’n stori sy’n llifo’n gyflym, yn hawdd darllen, ac yn gwbl, gwbl hurt.
Mae Siôn Botwm yn breuddwydio am fod yn archarwr, ond oes modd iddo wneud hynny? Wedi’r cyfan dim ond bachgen cyffredin yw e, bachgen cyffredin sy’n digwydd gallu rhag-weld digwyddiadau am fod ei glustiau'n cosi pan fo rhyw dro ar fyd! Mae Siôn yn derbyn llythyr gan Ysgol y Nerthol ac o fewn dim mae e, a'r darpar archarwyr eraill, yn brwydro yn erbyn y Gelyn Gwyrdd a’i gynlluniau dieflig.
Mae yna synnwyr cryf o’r abswrd yn y llyfr hwn, ac mae’r awdur yn cael hwyl gydag enwau, digwyddiadau a’r syniad o fod yn archarwr yn gyffredinol. Yn ôl y brifathrawes, Miss Marblen, yr hyn sy’n hanfodol i’w disgyblion yw “amynedd, disgyblaeth, a’r math iawn o deits”. A dweud y gwir mae rhaid i’r darpar archarwyr greu eu gwisgoedd ei hun, gan dalu sylw i’r cyfarwyddiadau yn y Llawlyfr Canllaw Archarwyr. Ac mae’r Gelyn Gwyrdd, er ei fod yn rhif 42 ar y rhestr o archdroseddwyr mwyaf peryglus y byhd, yn drewi’n barhaol o fresych ac yn cael ei alw'n dwmplen a siwgwr lwmp gan ei fam.
Mae’r llyfr cyntaf yma yn y gyfres Academi Archarwyr yn llawn hwyl, wrth i Siôn a’i ffrindiau newydd frwydro i achub yr ysgol a’r byd. Mae’r awdur yn deall yn iawn sut i wneud i blant chwerthin, sy'n dipyn o gamp.
~Cerian Arianrhod @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.