Exciting new novel suitable for YA (young adult) readers and Key Stages 3/4. Penny has a secret. Under the alias Girl Online, Penny blogs her hidden feelings about friendship, boys, school, her crazy family and the panic attacks that have begun to take over her life. When things get bad, her family takes her to New York, where she meets Noah, a gorgeous American boy.
Bywyd arferol oedd gan Penny yn y nofel Merch Ar-lein. Ond roedd ganddi gyfrinach, ac nid yw cyfrinachau wastad yn bethau da, fel mae Penny yn ei sylweddoli yn ystod y stori. Adeilada’r cyffro dudalen wrth dudalen, ac fe gadwodd fy niddordeb o’r dechrau i’r diwedd!
Ysgrifennai Penny am holl ddigwyddiadau ei bywyd ar ffurf blog, ar ôl iddi fod mewn damwain car efo’i rhieni. Roedd y blog yn ddienw, a dim ond ei ffrind gorau, Elliot, oedd yn ymwybodol o’i diddordeb creadigol cyfrinachol. Yn ystod y stori, mae rhieni Penny yn cael cynnig trefnu priodas grand yng ngwesty’r Waldorf, Efrog Newydd, yn null Downtown Abbey, dros ŵyl y Nadolig! Felly, dyma ddechrau antur o wyliau teuluol, ond ychydig a wyddai Penny y byddai’r gwyliau hyn yn newid ei bywyd am byth – ar-lein ac yn ei bywyd go iawn!
Ysgrifennwyd y nofel yma gan yr hynod boblogaidd Zoe Sugg, neu Zoella, o ddefnyddio ei henw ar-lein. YouTuber ydy hi, ac mae ganddi fwy na 12 miliwn o danysgrifwyr. Does ryfedd felly iddi droi ei llaw at ysgrifennu nofelau! Merch Ar-lein yw’r gyntaf mewn cyfres o dair nofel, ac maent i gyd mor gyffrous â'i gilydd, er bod hon ychydig yn well na’r lleill, yn fy marn i! Addaswyd y nofel i'r Gymraeg gan Eiry Miles ac mae'n addasiad llwyddiannus oherwydd mae'n llifo'n rhwydd ac yn hawdd ei ddarllen.
Credaf fod y llyfr hwn yn addas i ferched yn eu harddegau oherwydd gallant uniaethu â’r stori, gan ei bod yn sôn am y pwysau i wybod y gossip diweddaraf, a phwysau’r gymdeithas ar sut i edrych ac ymddwyn. Rwy’n argymell y nofel hon i unrhyw un sy’n hoff o antur a rhamant. Yn fy marn i, mae’r llyfr yn ardderchog ac yn dal diddordeb y darllenydd wrth ddilyn hynt a helynt bywyd Penny, yn ei chartref ym Mrighton ac yn America!
~Non Drake @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.