A collection of (mainly) grisly beasts out for human blood, ranging from Crocky-Wock the crocodile to Sting-A-Ling the scorpion. Described in verse with all Dahl's usual gusto and illustrated in a suitably wicked style by Quentin Blake. WARNING! This book contains wickedly funny verse, prickly surprises and the most despicable creatures you could ever hope (not) to meet.
Rhybudd! Gall y gyfrol hon achosi asennau poenus, ynghyd ag ymateb rhyfedd gan ddieithriaid os wyt ti’n ei darllen mewn man cyhoeddus. Gwylia rhag tagu wrth yfed dy baned, a bydd yn barod am lond bol o chwerthin!
Does dim geiriau i ddisgrifio mor ddoniol – ac mor ddychrynllyd – yw Penillion Ach-A-Fi, addasiad Cymraeg o Dirty Beasts Roald Dahl. Camp a hanner yw addasu gwaith y llenor plant penigamp hwnnw, waeth beth fo'r iaith, ond mae’r addasiad modern hwn i’r Gymraeg gan Gwynne Williams yn arbennig iawn, a'i odlau gwreiddiol yn wledd i'r glust.
Cawn siwrne ryfeddol i Ffrainc yng nghwmni llyffant anferth, pigau draenog yn sownd ym mhen-ôl un eneth fach, a phastai buwch yn glanio'n haeddiannol ar ben ‘rhyw lembo hanner Sais’. Mae’r penillion yn peri i ti chwerthin yn uchel, ac ar yr un pryd yn gwneud i ti amau fod yna anghenfil yn nillad y gwely. Wyt ti’n siŵr nad oes crocodeil yn y cwpwrdd? Yr hyn sy’n peri’r holl hwyl yw’r modd y mae’r anifeiliad lliwgar a llachar hyn wastad yn cael y llaw uchaf. Ac mae'r gyfrol ar gyfer darllenwyr o bob oed. Gall pob mab a merch, mam a thad a nain a thaid fynd i hwyliau wrth ei darllen, a gorau oll os oes modd darllen y cerddi'n uchel, er mwyn gwerthfawrogi clyfrwch yr odlau.
Fel pob un o lyfrau Roald Dahl, dyma un i’w drysori. Os wyt yn teimlo’n drist ryw dro, da ti, dos ati i'w ddarllen. Bydd y cerddi'n sicr o godi calon a rhoi gwên ar dy wyneb, ond yn gwneud i ti fwrw golwg sydyn yng ngwaelod y cwpwrdd ac yn nillad y gwely, jest rhag ofn ...
~Llinos Griffin @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.