Isadora Moon is special and different - half vampire, half fairy, totally unique! When Isadora's cousin, Mirabelle, comes to stay, she suggests that instead of taking Pink Rabbit Isadora should take a dragon to 'Bring Your Pet to School Day'. Isadora ignores her worries and goes along with the plan. But looking after a dragon turns out to be a little bit harder than they expected.
Mae Annalisa Swyn yn hanner fampir a hanner tylwythen deg. Un dydd Sul roedd ei chyfnither, sef Miri Mai (sy’n hanner gwrach a hanner tylwythen deg), wedi dod i aros am wythnos oherwydd roedd hanner tymor ysgol y gwrachod yn wahanol i un ysgol Annalisa. Roedd y ddwy wedi gwneud eu hunain yn fach a chwarae yn y tŷ dol eu hunain – byddwn i wrth fy modd yn gwneud hynny!
Cafodd pawb yn y dosbarth hwyl pan ddaeth Annalisa â draig i’r ysgol, pawb ond Miss Morgan!
Mae pethau doniol yn y stori, fel Dad yn cysgu yn ystod y dydd a mynd i wersi hedfan yn y nos, a’r ddraig yn cael bath ac yn bwyta gyda nhw.
Roedd y lluniau yn fawr iawn a’r llun sbarcli pinc ar y clawr yn hyfryd. Roedd e’n hawdd ei ddarllen, roeddwn i’n deall pob gair, ond roedd yr ysgrifen yn weddol fach. Hwn oedd y llyfr hiraf i mi ei ddarllen erioed; roedd o’n hwyl i’w ddarllen ar fy mhen fy hun.
Byddaf yn dweud wrth fy ffrindiau i’w ddarllen. Rydw i nawr eisiau darllen y llyfr arall, sef Annalisa Swyn yn mynd i’r ysgol.
Gwerfyl (6 oed)
Roedd hi’n bleser gweld Gwerfyl yn mynd ati o’i gwirfodd yn frwdfrydig i ddarllen y llyfr hwn ar ei phen ei hun bob nos. Ac wrth drafod cynnwys y llyfr, roedd hi’n byrlymu â’r holl bethau doniol a difyr ddigwyddodd.
Roeddwn i’n poeni y byddai trwch y llyfr (mae yma dros 117 tudalen) yn ei digalonni, ond yn hytrach roedd hi wrth ei bodd ei bod yn darllen llyfr ‘go iawn’ mor rhwydd. Gan fod cynifer o luniau deniadol a Chymraeg gloyw yr addasiad yn llifo’n ddiymdrech, roedd hi’n hedfan drwyddo.
Llyfr gafaelgar a swynol iawn sy’n berffaith i annog darllenwyr cynnar ac i ysgogi eu dychymyg.
~Gwenllïan Dafydd @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.