Second book in this fun, new Twm Clwyd series. No school for two whole weeks leaves Tom with heaps of time for the important things in life. Yeah! Stuff like: inventing new ways to annoy his sister Delia and eating caramel wafers. Excellent! Crammed with scribbles, doodles, stories and mayhem. Suitable for readers aged 9 years+.
O’r cychwyn cyntaf un, mae hanes Twm Clwyd yn llamu atoch o’r llyfr. Dyma addasiad arall o gyfres Tom Gates gan enillydd ‘Funny Prize’ Roald Dahl, L. Pichon, ac mae cyfieithiad Cymraeg Gareth F. Williams yn un heb ei ail hefyd.
Tydi esgusion i beidio â gwneud gwaith cartref yn ddim byd newydd ym myd plant; er hyn, mae’r llyfr hwn yn gwneud i chi chwerthin yn uchel mewn dau funud o ddechrau ei ddarllen.
Byddwch yn chwerthin am oriau maith am helynt y ddannodd. A druan o Delia, chwaer fawr Twm, sy’n gorfod ymdopi â’r fath frawd!
Mae’r lluniau, y posteri a’r rhestrau hwyliog yn drwsgl dros bob man ar y tudalennau, yn debyg iawn i feddwl yr hen Twm wrth iddo wfftio pob rheol, osgoi ambell gerydd a gwneud gorchest o bob dim er budd y band.
Mae’r darllenydd yn carlamu trwy’r geiriau byrlymus, ac mae Twm yn gês ac yn un o’r rebels hoffus hynny sydd yn siŵr o’ch diddanu.
Mae’r ddawn dweud a'r addasiad Cymraeg hwylus yn benigamp - yn ‘jîniys’ a dweud y gwir!
~Llinos Griffin @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.