This book takes the form of Tom's battered homework diary, crammed with his scribbles and stories and is totally accessible for boys and girls and reluctant readers. Honest, silly, and laugh-out-loud funny, Tom Gates is a superb voice for children of 9+. A Welsh adaptation of The Brilliant World of Tom Gates.
Tydi bywyd hogyn ddim yn hawdd. Mae angen i chi geisio cyrraedd i’r ysgol yn brydlon. Mae angen cuddio yng nghefn y dosbarth os ydych am ddarllen eich comics gorau. Mae angen osgoi sws gan Mam ar bob cyfri. A mwy na dim, mae angen cofio gwneud eich gwaith cartre. Ond ydi Twm Clwyd yn malio iot? Go brin!
Mae dyluniad y llyfr hwn yn helbul llwyr a Twm ydi’r un sy’n tynnu’r nyth cacwn hwnnw am ei ben. Yn llawn o frawddegau sionc, sgetsys sydyn a straeon di-ri, mae Twm yn dod yn gymeriad byw, llawn egni, ac yn fwrlwm o feddyliau – tipyn o lond llaw a dweud y gwir – a dyma sy'n gwneud i chi ddarllen yn eich blaen. Mae Twm yn cyfaddef fod ei ddiddordebau yw gwylltio ei chwaer, sef bod mewn band a bwyta wafferi caramel. Ydi wir, mae Twm yn fachgen drwg ar y naw!
Ymysg y lluniau mae llythyrau gan ei rieni a chan yr athrawon, adroddiadau ysgol a darnau o’i lyfrau ysgol, a'r rhain ar brydiau yr un mor ddoniol â’r stori ei hun. Mae’n rhaid i chi ddarllen hyd at y diwedd, hyd at y noson rieni ofnadwy honno, i weld y tameidiau trafferthus yn dod ynghyd.
Dyma lyfr rhwydd i’w ddarllen. Mae’n gyfrol a all codi calon unrhyw un ac yn un y gallwch ei chodi a’i gadael dro ar ôl tro. Ie wir, dyma gyfrol ddelfrydol i sbecian arni’n sydyn ... yng nghefn y stafell ddosbarth falle?
~Llinos Griffin @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.