A highly visual and factual book with the aim of encouraging children to discover and learn more about 10 stories from Welsh history. Comprising stories about Gwenllian Ferch Gruffudd; Owain Glyndŵr; Black Bart; Dic Penderyn/Merthyr Riots; Alfred Russel Wallace; the Penrhyn Strike; Race Riots of the 20th C; Eileen Beasley; the Aberfan tragedy and Devolution.
Cyfrol rodd, glawr caled, hynod drawiadol ei diwyg yw hon, sy’n gwneud yn union beth y mae’r teitl yn ei awgrymu – adrodd 10 o straeon o’n hanes ni fel Cymry, o’r canol oesoedd hyd at y cyfnod modern. Mae'r straeon wedi’u hysgrifennu gan yr awdur a’r sylwebydd gwleidyddol talentog Ifan Morgan Jones, a’u darlunio gan yr arlunydd cyfoes Telor Gwyn, y naill yn enillydd Llyfr y Flwyddyn 2020 a’r llall wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Tir na n-Og am ei lyfr cyntaf hefyd.
Wedi dweud hynny, mae’r gyfrol yn gymaint mwy na llyfr stori. Yn ogystal â chyflwyno hanesion Gwenllian, Owain Glyndŵr, Barti Ddu, Dic Penderyn, Alfred Russel Wallace, Streic Fawr Chwarel y Penrhyn, terfysgoedd hil y ganrif ddiwethaf, Eileen Beasley, Aber-fan a Datganoli, down i sylweddoli’n fuan mai cyflwyniadau go gignoeth a gonest o’r hanesion hynny a geir yma. Does dim cuddio pechodau na rhamantu. Mae’r awdur yn ei dweud hi fel y mae hi, gan ddehongli’r hanes yn ei ddull Cymreig arbennig ei hun, drwy bwysleisio, er enghraifft, mor ddidrugaredd a chreulon oedd rhai o weithredoedd y môr-leidr Barti Ddu, ac nad oeddem ni fel Cymry'n ddiniwed yn ein hymwneud â materion megis caethwasiaeth a hiliaeth chwaith. Efallai fod nifer o’r hanesion a gyflwynir yn y gyfrol yn gyfarwydd i ni i ryw raddau, ond mae’r wedd a roddir arnynt gan yr awdur yn cynnig rhyw ffresni a gonestrwydd cyfoes a chyfoethog. Aeth ati’n fwriadol iawn i ddewis a dethol ei ddeunydd, gyda’r bwriad o wneud iawn am rai anghysonderau yn y gorffennol, megis anghofio am gyfraniad unigolion fel Alfred Russel Wallace – gwyddonydd o Gymru a fu’n gymaint o gefn i Charles Darwin yn ei gyfnod.
Yn ychwanegol at bob hanesyn cawn ddwy dudalen bob tro sy’n cyflwyno ffeithiau ategol am ddigwyddiadau a chymeriadau allweddol eraill yn ein hanes ni fel Cymry, o’r Mabinogi i dywysogion Cymru, môr-ladrata a chaethwasiaeth, Cymru ddiwydiannol, gwyddonwyr a dyfeiswyr o Gymru, yn ogystal â’r brwydrau a’r ffigyrau gwleidyddol a fu’n rhan o’n hanes mwy diweddar hefyd. Mae yma fapiau defnyddiol –‘Cymru Drwy’r Oesoedd’ – sy’n dangos y modd y mae ffiniau Cymru wedi newid ers y 6ed ganrif, ac amserlin trawiadol sy’n ein harwain o tua 2,500 CC hyd at heddiw, heb sôn am restr o eiriau defnyddiol sy’n ddiweddglo i’r gyfrol. Ac mae’r cyfan wedi’i ddarlunio mewn arddull gartwnaidd fodern, foel ond cwbl addas, gan Telor Gwyn.
Dyma gyfrol hanfodol ar gyfer unrhyw silff lyfrau, beth bynnag eich oed, a chyfrol bwysicach fyth wrth i fwy o bwyslais gael ei roi ar ddysgu hanes Cymru yn ein hysgolion yn sgil y cwricwlwm newyddd. Ac os ydyw eich silffoedd chi eisoes yn llawn, cofiwch fod y gyfrol hefyd ar gael fel e-lyfr.
~Sioned Lleinau @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.