A luxurious edition in paperback. The Mabinogi are the oldest and most famous legends in Wales. First written down around eight hundred years ago, they were being told for many years before that. Join us and explore these captivating stories with their unique mix of magic, romance, adventure, giants, wars and wizards.
Mae'n siŵr fod y rhan fwyaf ohonom yn gyfarwydd â Phedair Cainc y Mabinogi – rhai ohonom, o bosib, wedi gorfod eu hastudio'n fanwl mewn Cymraeg Canol, ac eraill ohonom wedi cael bras syniad o'r straeon ar ôl eu darllen mewn llyfrau plant. Wel, dyma lyfr sy'n cynnwys rhywbeth yn y canol – addasiad swmpus o'r pedair stori. Mae'r llyfr yn addas i blant hŷn ac oedolion. Mae ynddo dros 120 o dudalennau ac y mae hynny'n rhoi syniad i chi o'r manylder a geir yma.
Mae'r llyfr clawr caled wedi cael ei gyflwyno mewn diwyg glân, hawdd ei ddarllen ond yr hyn sy'n gwneud y llyfr hwn yn gwbl atyniadol yw'r lluniau gan yr artist Valériane Leblond. Ar ddechrau'r gyfrol ceir llun o bawb ym mhob cainc gydag eglurhad pwy yw pwy. Ceir hefyd fapiau o Gymru'n dangos lle yn union mae'r mannau gwahanol a enwir yn y ceinciau.
Dyma lyfr, heb os, sy'n haeddu bod yn hosan pob plentyn y Nadolig hwn. Bydd ei ddarllen yn rhoi cyflwyniad penigamp i rai o brif gymeriadau ein llên i genhedlaeth newydd o ddarllenwyr. Mae'r awdur wedi dal naws y ceinciau i'r dim – eu tristwch a'u hiwmor, ac mae'r dweud mewn mannau yn hyfryd o gynnil a diwastraff. Mi ellid ei ddarllen dro ar ôl tro a chael pleser pur yn byseddu'r tudalennau cain.
~Sarah Down-Roberts @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.