Test your knowledge about Wales – at home, in the classroom, in the pub. Get family and friends together to find out how much you really know about Wales! This paperback quiz book is linked to the new WALES on the MAP picture atlas. Breath-taking artwork by Valériane Leblond and splendid content by author Elin Meek.
Mae’r llyfr hwn yn seiliedig ar yr atlas gwybodaeth Cymru ar y Map, sef llyfr mawr clawr caled ar wahân sy’n cyflwyno ffeithiau Cymru ar fapiau. Ond er ei fod yn defnyddio’r un wybodaeth ffeithiol â’r llyfr hwnnw, ac y gellid eu darllen ochr yn ochr, mae hwn hefyd yn llyfr sy’n sefyll yn gadarn ar ei ben ei hun, ac iddo elfen lawer mwy chwareus na’r llall!
Mae’n gyfrol i bob oedran, ac yn llawn dop o gwestiynau (ac atebion!) am hanes, daearyddiaeth, enwogion, byd natur, diwylliant, y celfyddydau, gwleidyddiaeth, bwyd, chwedlau, pensaernïaeth a chwaraeon Cymru, a llawer mwy. Faint ydych chi’n gwybod am y pethau hyn? Mi ddysgwch chi gymaint am Gymru drwy’r llyfr hwn, er enghraifft, ers pryd mae Casnewydd yn ddinas? Pam mae Cwm Nedd yn enwog? Ymhle mae Dafydd ap Gwilym wedi’i gladdu?
Mae yma 595 cwestiwn am Gymru, a’r rheiny wedi’u trefnu yn ôl siroedd ac yn ôl testunau (e.e. Hanes, Chwaraeon etc). Gallwch ddarllen y llyfr eich hun i brofi eich gwybodaeth neu ei ddefnyddio i gynnal cwis gartref, yn y dosbarth neu unrhyw le. Mae’n hwyl mynd â’r llyfr hwn yn y car wrth deithio drwy’r siroedd y gofynnir cwestiynau amdanynt, ac yn wir mae bod yn y car yn lleoliad gwych i fwynhau’r cwestiynau. Yn y cyswllt hwnnw, gwych o beth fyddai cael llyfr cwis fel hwn sy’n llawer manylach ar gyfer teithiau car cyffredin ar hyd ffyrdd Cymru, sef llyfr sy’n cyflwyno gwybodaeth ar ffurf cwis am dirnodau a thirlun Cymru. Er enghraifft, beth yw enw’r mynydd ar y chwith? Pwy oedd yr awdur enwog a arferai fyw yn y pentref acw? Byddai taith addysgol ar yr A470 yn hedfan heibio!
Mae croeso mawr i’r gyfrol fach hylaw hon, Llyfr Cwis: Cymru ar y Map a lluniau bach difyr Valériane Leblond yn bywiogi’r tudalennau.
~Angharad Williams @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.