The team behind The Story of Space and The Story of Life present a first book about the human world for very young children, looking at how humans evolved and the history of humanity up to the present day. A Welsh adaptation by Siân Lewis of The Story of People by Catherine Barr and Steve Williams.
O’r diwedd, dyma lyfr yn y Gymraeg i ateb y cwestiwn ‘O ble mae pobl yn dod?’ sy’n esbonio theori esblygiad. Mae taer angen llyfrau ffeithiol fel hyn i annog gwyddonwyr bach Cymraeg y dyfodol ac i feithrin meddyliau chwilfrydig, heb sôn am ehangu eu geirfa yn y Gymraeg.
Mae pynciau digon cymhleth yn cael eu trafod yma, megis datblygiad bywyd o'r celloedd cyntaf ac esblygiad dyn, ond mae'n gwneud hynny mewn ffordd sy'n ddealladwy i blant wrth iddynt, o bosibl, gael eu cyflwyno i’r cysyniadau hyn am y tro cyntaf. Sonnir am y tameidiau bychain a roes fywyd i’r byd a’r celloedd hyn yn troi’n greaduriaid o bob math. Cawn hanes oes y deinosoriaid ac esblygiad mamaliaid a phobl, a chyn bwysiced â dim cawn y cyd-destun heddiw wrth i bobl lenwi’r blaned a difetha lleoedd gwyllt.
Yn y llyfr ceir darluniau syml a swynol sy’n llenwi’r tudalennau, ac nid yn unig maent yn ychwanegu cryn dipyn o liw at y testun, maent hefyd yn ddefnyddiol iawn wrth esbonio ac esgor ar drafodaeth bellach.
Mae llinell amser (e.e.‘65 miliwn o flynyddoedd yn ôl’) ar bob tudalen, sy’n wych o beth gan fod llinell amser yn gysyniad anodd i blant ond mae’n bwysig iawn dechrau trafod pa mor hir y mae wedi ei gymryd i fywyd ar y ddaear (a dyn) esblygu. Gellid dadlau fod y ‘llinell amser’ sydd ar dudalen yr eirfa yng nghefn y llyfr yn gamarweiniol gan nad yw pob cyfnod mewn gwirionedd yn ‘gyfartal’ a dylid fod wedi rhannu hyd y llinell ar y dudalen yn fwy cymesur, h.y. byddai ‘heddiw’ a’r miliwn o flynyddoedd diwethaf yn llawer, llawer llai.
Mae iaith yr addasiad yn fywiog a chyfoethog, er bod dewis defnyddio berfau amhersonol (e.e. ‘cymylwyd y moroedd’) a berfau cryno anghyfarwydd (e.e. ‘trawodd’) yn destun trafod. Mae’r eirfa/geiriau ar ddiwedd y llyfr yn hynod ddefnyddiol, ond trueni nad oedd ‘nwy’ hefyd wedi’i gynnwys gan y gall hwnnw o bosibl beri problem esbonio i ambell riant.
~Angharad Williams @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.