Combining history with science, this book charts the changes in our Earth's climate, from the beginnings of the planet and its atmosphere, to the Industrial Revolution and the dawn of machinery. Kids will learn all about the causes of climate change, such as factory farming and pollution, and the effects that climate change has on humans and animals across the world.
Heb amheuaeth, dyma un o’r llyfrau pwysicaf y byddwch chi’n ei ddarllen ’leni!
Ydych chi wedi drysu gyda thermau fel ‘cynhesu byd eang’ a ‘newid hinsawdd'? Ydych chi’n chwilio am lyfr sy’n esbonio hyn i gyd, a llawer mwy, mewn ffordd hawdd ei deall? Wel, os felly, dyma’r llyfr perffaith i chi!
Mae Stori Newid Hinsawdd yn gwneud ‘be mae o’n ei ddweud ar y tun’ – dyma lyfr sy’n cyflwyno stori amgylcheddol ein planed o’r cychwyn cyntaf un hyd at y presennol, sy’n dipyn o gamp i’w wneud mewn un llyfr!
Mae lluniau lliwgar Amy Husband a Mike Love yn ardderchog, ac yn bwysig iawn ar gyfer esbonio rhai o’r cysyniadau sy’n cael eu trafod. Dyma lyfr sy’n sicr yn edrych yn dda iawn, ond un sy’n cynnwys lot o wybodaeth hefyd. Fe gewch chi’ch synnu cymaint o wybodaeth a ffeithiau sydd wedi eu gwasgaru ar draws y tudalennau.
Cychwynna’r llyfr filiynau o flynyddoedd yn ôl, mewn cyfnod cyn y dinosoriaid, pan oedd y blaned yn ifanc iawn. Yna, rydym yn hepgor cyfnod y bobl gyntaf ac yn neidio o amser cynhanesyddol yn syth at Oes Fictoria a’r chwyldro diwydiannol. Fe ddysgwn am sut mae ffatrïoedd a ffermio dwys yn rhyddhau nwyon i’r atmosffer a sut y gall hyn arwain at newidiadau mawr i’n planed a’n ffordd o fyw.
Mae'r llyfr yn cydnabod mai ni, y bobl, yw achos newid hinsawdd y blaned, ond mae’n esbonio hyn yn glir heb geisio dychryn darllenwyr iau fel mae rhai llyfrau’n gwneud.
Mi fydd y llyfr yn adnodd arbennig o ddefnyddiol yn yr ystafell ddosbarth ar gyfer gwaith ymchwil, gan ei fod ar lefel addas iawn i CA2. Yn y cwricwlwm newydd, bydd mwy o bwyslais ar weithio’n drawsgwricwlaidd – rhywbeth y mae’r llyfr yma yn sicr yn cynnig y cyfle i’w wneud, gan ei fod yn cynnwys elfennau o ddaearyddiaeth, gwyddoniaeth a hanes.
Er bod materion eraill yn llenwi’r penawdau i gyd, mae’n rhaid i ni gofio bod argyfwng yr hinsawdd yn parhau i fod yn un o fygythiadau mawr ein hoes. Os ydym am barchu’r ddaear a ffeindio ffyrdd mwy cynaliadwy a gwyrdd o fyw, bydd rhaid i bawb weithio gyda’i gilydd i gyrraedd y nod.
Dyma obeithio y bydd y llyfr yma’n ysbrydoli ac yn sbarduno gwyddonwyr, peirianwyr, dyfeiswyr a gwleidyddion y dyfodol i weithredu ac i achub y Ddaear!
~Morgan Tomos @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.