This is the story of a young boy Wizard and a young girl Warrior who have been taught since birth to hate each other like poison; and the thrilling tale of what happens when their two worlds collide. Perfect for boys and girls who love fantasy adventure... Once there was Magic, and the Magic lived in the dark forests. Until the Warriors came...
Fel mae teitl y nofel hon yn ei awgrymu, mae hud yn thema gref yn y gyfrol wych hon. Ar y cyfan, ni chaiff y thema hud a lledrith lawer o sylw mewn llyfrau Cymraeg, ond mae’r nofel hon yn llenwi rhywfaint ar y bwlch hwnnw trwy gynnig y cyfle i ddarllenwyr ymgolli’n llwyr mewn byd ffantasi llawn hud a dirgelwch.
Mae’r stori yn canolbwyntio ar antur un diwrnod i ddau gymeriad sy’n ffinio ar daro’r glasoed. Yn gyntaf, cyflwynir Llŷr i ni, dewin yn ei arddegau sy’n ysu am antur a chyffro yn ei fywyd. Yn ail, cyflwynir Dôn, sef merch ddeuddeg oed sy’n byw mewn byd hollol wahanol i Llŷr, er eu bod yn byw dafliad carreg o’i gilydd. Mae’r ddau yn perthyn i ddau lwyth gwahanol iawn o bobl – mae Llŷr yn un o’r Dewiniaid â’u byd o swyn, a Dôn yn un o’r Rhyfelwyr sy’n ymwrthod yn llwyr â hud. Yn fuan yn y stori, daw’r ddau i gyswllt am y tro cyntaf erioed, a chaiff y darllenydd ymuno ar antur sy’n arwain trwy ddau fyd ffantasïol cyffrous.
Wrth i’r antur fynd rhagddi, cyflwynir cymeriadau o bob lliw a llun – cigfran ddoeth o’r enw Crawchog; cawr enfawr o’r enw Dolur; tylwyth twp gydag enwau fel Pry-pi a Cachgibwgan; cath eira i’w marchogaeth; bleiddiaid; arth; ysbrydion; gwrach sydd â hud drwg; ac anifail anwes sy’n llwy hudol! Oes – mae creadigrwydd a dychymyg hynod tu cefn i’r cymeriadau amrywiol hyn!
Rhaid canmol creadigrwydd yr awdur wrth enwi’r holl gymeriadau difyr hefyd; mae yma ddefnydd o eirfa ddiddorol a lliwgar drwyddi draw, gan fentro’n bell o’r Saesneg gwreiddiol a rhoi blas trwyadl Gymreig ar y cyfan. Fel y gellid dychmygu o ddarllen rhai o’r enwau doniol, mae tipyn o hiwmor i’w gael rhwng cloriau’r gyfrol hefyd, wrth i ambell gymeriad wneud penderfyniadau twp neu ddweud pethau dros ben llestri – mae’n amhosib peidio chwerthin yn uchel ar adegau!
Elfen arall sy’n gwneud y nofel yn bleser i’w darllen yw’r defnydd o luniau, sgetsys, a mapiau. Does dim llawer iawn o dudalennau dwbl sydd ddim yn cynnwys yr elfen ddiddorol hon – mae’n ychwanegu ychydig o hwyl i’r darllen, ac yn sicrhau nad yw’r nofel yn teimlo’n faich i’w darllen, er mor drwchus yw’r gyfrol, sy’n allweddol bwysig o gofio mai apelio at ddarllenwyr iau yw’r nod. Mae hefyd yn ychwanegu at gynnwys y stori, gan gynnig lluniau o’r creaduriaid hynod er mwyn cynorthwyo’r dychymyg, ac esboniadau pellach ar faterion megis swynau hudol.
Dyma’r gyntaf yng nghyfres Yr Hudlath a’r Haearn; os ydych chi’n mentro i fyd y nofel hon, byddwch yn sicr yn awchu i bori drwy’r gyfres gyfan.
~Awen Schiavone @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.