This beautifully illustrated book will introduce children to the joys of nature, and show them what wonderful secrets are revealed if you just look a little closer. By holding a light behind each page, children can see the creatures who make a tree their home.
Dyma gyfrol fechan yn y gyfres Llyfr Goleuo'r Dudalen, llyfr a grëwyd yn Saesneg gan Carron Brown ac Alyssa Nassner ac a addaswyd gan Elin Meek.
Mae'r syniad yn un syml iawn, sef defnyddio papur cymharol denau lle gellir gweld print tywyll oddi ar gefn y dudalen pan fo honno'n cael ei dal at y golau. Mae'r llun cyntaf yn enghraifft ragorol – gwelir y goeden yn ei dail ar y dudalen gyntaf, ond o ddal y darlun at y golau daw brigau moel yr ail dudalen i'r golwg gan ddangos y goeden yn foel a diaddurn.
Y mae amryw o'r cyfuniadau yn hynod ddeniadol a daw madfall a llyffant a phryfed genwair a phob math o greaduriaid i'r golwg unwaith mae'r ddalen yn cael ei chodi at y golau. Law yn llaw â'r darluniau clir y mae mymryn o destun llawn gwybodaeth ddefnyddiol. Rhy’r testun gyflwyniad clir i fyd gwyddonol ar gyfer plant cymharol ifanc, ac mae pytiau o wybodaeth hynod ddifyr fydd yn deffro chwilfrydedd y plant a'u rhieni.
Yn ychwanegol, fel atodiad i'r gyfrol, ceir dwy dudalen o wybodaeth ychwanegol am yr anifeiliaid a'r planhigion.
Dyma gyfrol werthfawr fydd yn gyflwyniad rhagorol i fyd gwyddonol.
~John Roberts @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.