With filthy hair all over his face and horrid plots growing in his mind, Mr Twit is one of the nastiest people you'll ever meet and Mrs Twit is just as bad and even uglier! But they don't stop at tricking each other. Neighbouring children, and even the local birds, are in danger. That's where the Muggle-Wumps come in. A Welsh adaptation of The Twits.
Er fy mod yn ffafrio llyfrau Cymraeg gwreiddiol i blant, mae’r gyfres hon yn boblogaidd iawn ymysg plant cynradd. Straeon am deulu ‘hollol ffiaidd’ y Twits a geir yma. Ac mae Mr a Mrs Twit yn casáu plant. Mae Mrs Twit yn ‘salw a hyll’ ac mae gan Mr Twit flew trwchus yn tyfu o’i ffroenau. Mae’r disgrifiadau hyn yn aros yn y cof, yn sicr – barf Mr Twit fel `blew brwsh ewinedd’, gyda darn o gaws wedi llwydo, hen greisionen yd neu gynffon lysnafeddog sardîn yn sownd ynddi! Does ryfedd felly fod plant yn gwirioni ar y llyfr hwn.
Mae’r penodau yn gwau yn hwylus i’w gilydd, mae’n llyfr hawdd i’w ddarllen, a dyw hiwmor a chreadigrwydd Roald Dahl ddim wedi eu colli yn y cyfieithiad hwn. Mae’r arddull yn sionc, ac mae’r pytiau o ffeithiau am Roald Dahl a’r arlunydd Quentin Blake yn cyfoethogi’r gwaith.
Roedd Dahl yn argyhoeddiedig bod y rhan fwyaf o oedolion wedi anghofio’n llwyr sut beth oedd bod yn blentyn, ond ei fod e’n medru cofio'r profiad yn iawn. A dyna sy’n gwneud ei straeon mor apelgar i blant. Gwelais griw o blant yn dod adref o’r ysgol ar Ddiwrnod y Llyfr eleni. Roedden nhw wedi cael caniatâd i wisgo fel cymeriad o lyfr, ac oedd, mi roedd yna Mrs Twit yn eu plith. Dewis dewr, o ystyried fod mwyafrif y merched wedi eu gwisgo fel tywysogesau! Ond mae'n amlwg fod y Mrs Twit hon wedi gwirioni ar y nofel, ac am £5.99, mae’n anrheg berffaith i blentyn ysgol.
~Iola Wyn @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.