The enormous crocodile is a horrid, greedy brute who loves to guzzle up little boys and girls. But the other animals have had enough of his cunning tricks, so they all scheme to get the better of this foul fiend, once and for all! A Welsh adaptation of Roald Dahl's The Enormous Crocodile.
Pwy ar wyneb y ddaear feddyliodd y byddai plant yn cael eu swyno gan stori am grocodeil rheibus sydd â'i fryd ar eu llowcio nhw'n gyfan? Pwy ond Roald Dahl. Ac wrth gwrs, roedd e'n iawn!
Dyma i chi grocodeil sy'n mynnu mai merch neu fachgen bach yw'r pryd mwya blasus sy'n bod. Yn anffodus (iddo fe), mae e hefyd yn grocodeil twp. Dyw e ddim yn gallu cadw'i ddymuniadau'n gyfrinach, ac wrth iddo ymlwybro drwy'r jyngl er mwyn llenwi ei fol â phlant y dre, mae'n rhannu ei ddymuniadau gyda chreaduriaid y jyngl. Nhw yw'r arwyr. Boldew yr Hipopotamws, Sbonc y Mwnci, y Deryn Plu Lliwgar a Thrwnc yr Eliffant sy'n achub y plant, ac yn sbwylio “cynlluniau cyfrinachol” y dihiryn. Diolch i Trwnc, mae'r hen grocodeil yn y pen draw yn cael ei daflu ar ei ben i'r haul, ac yn cael ei “ffrio fel sosej!”.
Mae dawn Roald Dahl i hoelio sylw plant, a chreu gwefr a dychryn ar yr un pryd, yn unigryw. Mae fy merch yn cydio'n dynn yn fy mraich pan fydda i'n darllen y stori, ond dyw hi byth yn blino arni. Ac mae llawer o'r diolch am hynny i addasiad llwyddiannus Elin Meek. Mor braf yw gallu cyflwyno clasuron bach fel hyn i'n plant yn Gymraeg. Ac mae'n gyfle i wledda ar eirfa liwgar fel - ‘Yr hen walch cas barus’, ‘y croc ffyrnig’, ‘y cnaf ffiaidd’ – i nodi dim ond rhai disgrifiadau o'r crocodeil anferthol.
Pa un a ydynt yn gwrando ar eu rhieni'n darllen neu'n darllen eu hunain, mae plant wrth ei bodd â'r stori hon. Mae lluniau gwych Quentin Blake yn dod â'r stori hyd yn oed yn fwy byw, yn enwedig i'r plant lleia.
Does ryfedd mai Roald Dahl (fel mae clawr y llyfr yn ei nodi) yw storïwr plant gorau'r byd.
~Gwenllian Grigg @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.