A Welsh adaptation of The BFG, an amazing story by a very popular author about Sophie's best friend, the BFG, a kind giant who uses strange words; for 8-11 year-old readers. 72 black-and-white illustrations. New edition.
Welsh adaptation of Roald Dahl's "The BFG".
~Publisher: Rily
' "Dymar snoscymbr amgas!" gwaeddodd yr CMM. "Dwin ei hasáu e! Dwin ei gamfygu e! Dwin ei thieiddio fe!" '
Dyma ni eto, meddech. Camsillafur Gymraeg. Llurgunio ein hiaith.
'"Maer llabswitsiwr drwgwlgrwbiog gorddyrniog 'ma wedi fy ypsetio i!"'
'Beth nesaf?!' fech clywaf yn taranu. Arwyddion ffyrdd syn parchu dim ar gywirdeb iaith, archfarchnadoedd yn arbenigo mewn camgyfieithiadau chwerthinllyd a rŵan dyma lyfr ar gyfer ein plant sydd petain profi eu gallu i ddatrys posau. Ond arhoswch . . .
' "Geiriau," meddai, "syn broblem syn fy mhlwc-goglais i . . . Fi syn siarad y wigleg fwyaf erchyll." '
A chyda chyfaddefiad fel yna, daw goleuni ar y mater. Nid rhywun cyffredin syn siarad, ond cawr. Cawr Mawr Mwyn, yr Èc Èm Èm. Ydi, maer BFG wedi dysgu siarad Cymraeg.
Mae o wedi ei meistroli'n dda hefyd (gydag ychydig bach o help gan Elin Meek), yn ddigon da i adrodd ei stori amdano fo a Sophie yn achub plant bach Lloegr ('sydd â blas popscows gwych' arnyn nhw) rhag cael eu bwyta gan y Cnöwr Plant ar Malwr Esgyrn ar cewri erchyll eraill. Diolch byth na chlywson nhw erioed sôn am Gymru, felly cysgwch yn dawel, blant neu bantlos fe y buasair CMM yn ei ddweud.
Wna i ddim datgelu diwedd y stori, dim ond cyfaddef i mi ei mwynhau or dechrau ir diwedd, yn enwedig y cam-eirio y 'blodau dynol' ('human beans' yng ngwreiddiol Roald Dahl), 'yn fyddar fel tost', 'ar bigaur brain', 'mynd fel bath i gythraul'. Mae gafael dda ar deithir heniaith gan yr hen gawr, a fuasech chi byth yn dweud mai wedi cyfieithu ei stori mae o; ac mae honno, fel y gwreiddiol, yn mynd ar garlam braf hyd y dudalen olaf.
Ond rhaid rhoir prawf eithaf iddi, sef ei gosod gerbron y darllenwr deg oed am ychydig oriau.
' A sut stori oedd hi?'
'ARBENNIG!'
~Ann Gruffydd Rhys @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.