A humorous novel for Welsh Learners Foundation Level Two and Intermediate Level. Journalist Lowri Glyn feels that life on the newspaper Post Pen-y-bae is very dull, until everything changes one day! Useful vocabulary on each page.
Dyma nofel i ddysgwyr a dylid ei chroesawu gyda brwdfrydedd. Bûm yn ei thrafod gyda dau ddosbarth oedd yn cychwyn lefel Ganolradd ac roedd yr ymateb yn wych gan bob un o'r dysgwyr. Dyma rai sylwadau:
'Mae hi’n nofel dda iawn i ddysgwyr – yn syml, eto ddim yn rhy syml.'
'Diddorol.'
'Mae’r patrymau’n eglur.'
'Mae’r eirfa’n ddefnyddiol iawn ac yn handi wrth droed y tudalen.'
'Mae hi’n wneud i chi wenu. Mae hi’n ddoniol mewn ffordd dawel.'
'Mae hi’n gwneud i mi isio darllen mwy.'
'Dwi isio ei phrynu hi.'
'Mae hi’n llifo’n naturiol.'
Roedd y dysgwyr wedi penderfynu prynu’r llyfr a hynny ar ôl clywed y bennod gyntaf yn unig!
O safbwynt tiwtor, braf iawn yw gweld defnydd clyfar iawn o batrymau sydd eisoes yn gyfarwydd i’r dysgwyr. Gellir cyfiawnhau darllen y nofel yn y dosbarth fel modd i adolygu’r patrymau'n unig. Mae’r geiriau benthyg sydd â blas Saesneg yn hwyluso’r darllen ac yn codi gwên yn aml ar yr un pryd.
Nid yw'r ffaith mai darn o lenyddiaeth i ddysgwyr yw hon yn ei bychanu o gwbl. Mae ganddi holl rinweddau nofel dda a saif yn gryf ar ei thraed ei hun. Mae ganddi adeiledd cadarn ac mae’r byd o fewn y swyddfa yn cael ei gyflwyno’n raddol i ni. Mae yma fanylion bach am y cymeriadau sydd yn ein hatgoffa, bron, o’r bobl sydd o'n cwmpas bob dydd, a'r rhai rydyn ni’n yn eu hadnabod eisoes.
Mae ‘syspens’ yma. Rhaid i ni sefyll ar ochr dibyn yn aml a disgwyl am y bennod nesa. Cawn gyflwyniad i’r byd Cymreig a’i wahanol sefydliadau. Dyma ffordd hwylus iawn i ddysgwyr gael cip ar agweddau o fywyd a all fod y tu hwnt i’w profiad fel arall. Ond eto cawn ein codi i’r byd tu hwnt i Gymru hefyd – byd cyfoes sy’n cynnwys Kate Adie ac eraill.
Profiad braf oedd darllen y nofel hon. Mae’n stori werth chweil, felly prynwch hi!
~Sandra Jones-Evans @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.