A collection of a dozen entertaining and devilish short stories. In his first collection of short stories in Welsh, Jon Gower portrays diverse scenarios: the last vampire in Clydach; a murderous grandmother; a man who is made blind by the beauty of a young girl; Welsh bards becoming zombies.
Cyfrol o ddwsin o straeon byrion difyr a dieflig o ddyfnder dychymyg gan Enillydd Llyfr y Flwyddyn 2012. Yn ei gasgliad cyntaf o straeon byrion yn Gymraeg, cawn hanes y fampir olaf yng Nghlydach; mam-gu frawychus o lofruddiol; dyn sy'n mynd yn ddall ar ol gweld merch hardd; beirdd Cymraeg yn troi'n sombis, ac arwres sy'n achub bywydau ei chyd-Ferched y Wawr gyda'i hymbarel.
~Publisher: Gomer@Lolfa
Does yna’r un ffurf lenyddol sy’n fwy hyblyg na’r stori fer. Mae’r disgrifiad ei hun yn amwys. Does dim gofyn iddi, o reidrwydd, fod yn stori. Ac am ei hyd (neu ei byrder) gellid gofyn y cwestiwn rhethregol hwnnw, ‘beth yw hyd darn o linyn?’
Mae modd, felly, o fewn stori fer i greu talp o lenyddiaeth greadigol heb iddi na ffiniau na rheolau gan adael i’r dychymyg redeg yn drên. A dyna’n union a geir yng nghasgliad Jon Gower, sef dwsin o straeon byrion sy’n gymysgedd o’r cignoeth a’r tyner, y doniol a’r difrif. Dwsin o berlau mewn mwclis a unir gan ddolenni dawn a dychymyg.
Mae’r casgliad yn ategu’r hyn a wyddom eisoes am ddawn storïol John, dawn y cyfarwydd sy’n ei osod ar frig llenyddiaeth gyfoes Gymraeg. Yma mae ei ddychymyg dilyffethair yn mynd â ni i fyd gwraig sy'n dioddef o dementia a hithau'n sydyn yn dechrau trydar. Aiff â ni wedyn i ddinas diniweidrwydd o fath arall, lle mae merch fach yn bencampwraig ar sillafu. Yna cawn yr absẃrd mewn stori am hen wraig yn cael ei dylanwadu gan y ffilm Reservoir Dogs, gyda chanlyniadau arswydus.
Yn ardal Llanelli darllenwn am gyn-ddihiryn a achubir o'i ddrygau gan ei berthynas â'i gi defaid. Daw achubiaeth i aelodau Merched y Wawr drwy gyfrwng ymbarél chwyldroadol Beti Powell, ac mewn siop lyfrau ym Mhontcanna mae obsesiwn yn troi’n drychineb. Mae yma hefyd hanes dwy ferch ifanc, a’u sefyllfa’n adleisio un o chwedlau'r Brodyr Grimm, ac ni chewch eich siomi gan stori ddyfeisgar, lawn hiwmor tywyll sydd â'r teitl gogleisiol ‘Y Fampir Olaf yng Nghlydach’.
Fy hoff stori yw ‘Gwlad Beirdd’, am lengarwr sydd ag obsesiwn am gerddi Waldo. Mae hyn yn arwain yn y ffordd fwyaf troellog ac anhygoel at esgor ar hil o sombis. Yn ‘Yfory’ cawn stori arswyd gignoeth am greulondeb a dialedd sy’n gyfoes ac yn oesol yr un pryd. Yn cloi'r gyfrol mae stori garu, stori am chwilio a chael, a hon eto’n gyfoes ond yn llawn adleisiau o hen chwedl.
Tasg amhosibl yw crynhoi holl briodoliaethau’r storïau hyn. Ceisiwyd gwneud hynny mewn brawddeg ar y clawr trwy gynnwys y geiriau ‘difyr’ a ‘dieflig’. Ychwanegwch ‘bisâr’ ac ‘absẃrd’. Ac eto, am ryw reswm annirnadwy, maen nhw’n gwbl dderbyniol a chredadwy. Ychwanegaf un gair arall – ‘meistrolgar’.
~Lyn Ebenezer @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.