A story about two friends exchanging e-mails and learning Welsh. Ceri is a PE teacher in a school near Sydney in Australia. Sara, her e-friend, lives in a village not far from Cardiff and commutes to the city every day to work in an office. Reading material for Welsh learners at entry level. First published in 2009.
Nofel gyfoes iawn yw E-ffrindiau. Mae hi’n dechrau gyda merch yn Awstralia, Ceri, yn hysbysebu am e-ffrind sy’n dysgu Cymraeg i ysgrifennu ati fel ei bod hi’n gallu ymarfer ei Chymraeg. Mae Sara, sy’n byw yn ne Cymru, yn cysylltu â hi. Mae’r nofel yn gyfres o e-byst rhwng y ddwy dros gyfnod o flwyddyn. 'Dyn ni’n dysgu mwy amdanyn nhw, eu teuluoedd, eu bywyd bob dydd, traddodiadau gwahanol y ddwy wlad Dydd Gŵyl Dewi, Santes Dwynwen (Cymru), Sioe Frenhinol y Pasg, Easter Bilby (Awstralia) yn ogystal â’u dosbarthiadau Cymraeg. 'Dyn ni hefyd yn cael gwybod bod cysylltiad agos iawn rhwng Ceri a Chymru, a dyna pam mae hi eisiau dysgu Cymraeg.
Oherwydd eu bod nhw’n cysylltu trwy e-bost mae rhai tudalennau’n fyr iawn, yn enwedig ar y dechrau, sy’n wych ar gyfer dysgwyr ac mae geirfa ar waelod pob tudalen yn ogystal ag un fwy cynhwysfawr yng nghefn y llyfr. Ro’n i’n hoffi clywed yn fawr am rai o’u tactegau ar gyfer dysgu a chofio geiriau newydd neu ramadeg mae Sara’n cofio’r gair ‘adeiladwr’ the builder ‘ad a ladder’ ac yn cofio ‘dw i ddim yn rhugl eto’ ‘Rigoletto’. Mae rhan gyntaf y llyfr yn yr amser presennol ond ar ôl i'r cymeriadau astudio ffurfiau gorffennol a dyfodol y ferf yn eu dosbarthiadau, maen nhw’n defnyddio’r amserau hyn yn eu he-byst.
Mae clawr y llyfr yn dweud ei fod ar gyfer Safon Mynediad, ond dw i’n credu ei fod braidd yn rhy anodd ar gyfer y safon hon. Mae rhai brawddegau anodd yma er enghraifft, ‘beth os dyw’r teulu ddim eisiau clywed oddi wrth blentyn fy nhad’ neu ‘Dyw hi ddim eisiau parti pen-blwydd mae Emma’n dweud’. Gan nad yw ‘bod’ wedi cael ei gyflwyno ar y cwrs 'dyn ni’n cael brawddegau fel ‘mae’n esgus da i fwyta llawer mae pobl yn dweud’ ac ‘mae hi’n drist iawn mae hi’n dweud’. Ond wedi dweud hynny, mae’n nofel sy’n symud yn hawdd ac yn gyflym a 'dyn ni’n gweld y ddwy yn dod yn ffrindiau agos yn ystod y flwyddyn. Buasai dysgwyr yn sicr yn mwynhau'r nofel ond buaswn i’n tybio ei bod yn fwy addas ar gyfer Safon Sylfaen.
~Shân Morgan @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.