The central theme to John Gower's imaginative novel is rural childhood. Gwydion McGideon is the hero, an unrivalled story teller from west Wales. He creates stories throughout his life and we get to know his life story through the medium of a novel of his own creation. Winner of the Welsh Book of the Year Award for 2012.
Stori hynod y storiwr a'r byd y mae'n byw ynddo. Enillydd Llyfr y Flwyddyn 2012.
~Publisher: Gomer@Lolfa
Dyma ail nofel Jon Gower ac mae hi’n glamp o lyfr! Nid ei maint yn unig, dros 350 o dudalennau, sy’n ei gwneud yn nofel swmpus ond cyfoeth y naratif, y gyfeiriadaeth, y cymeriadau, y storïau, y dweud – mae’r rhestr yn faith.
Ar un olwg mae’r stori yn un ddigon syml sef hanes Gwydion, ei blentyndod a’i lencyndod yng ngorllewin Cymru. Ond hanes anghyffredin ydy hwn gan fod Gwydion ei hun mor anghyffredin. Mae’r nofel yn agor ar noson ei enedigaeth a hithau’n noson ‘unwaith-mewn-mileniwm’, yn llawn ffrwydradau amryliw. Wedi iddo gyrraedd, ni fu bywyd yr un fath i’w rieni, Martha a Macs, ar droad y chwedegau seicadelig. Mae’n cael ei enwi’n Gwydion er mwyn gwneud yn siŵr y byddai’n ddyn arbennig iawn – ni siomwyd ei rieni!
Yr hyn sy’n arbennig am Gwydion yw ei ddawn i ddweud stori ar ôl stori ar ôl stori. Yn ôl Gwydion, mae’r geiriau wedi bod yno erioed, yn rhaeadru ac yn tasgu ac yn cwympo’n ‘bendramwnwgl’. Ond nid geiriau'n unig sydd ganddo er mwyn dweud ei stori ond cyfoeth o wybodaeth am bopeth dan haul, ac mae o'n adnabod pawb a phopeth yn ei fro a thu hwnt.
Mae gan Gwydion ei Nemesis hefyd sef Mr Ebenezer, ac wrth i’r nofel fynd rhagddi mae’r frwydr rhwng y ddau yn poethi ac mae’r diwedd yr un mor ddramatig â hanes geni Gwydion. Wrth ddilyn tranc y bachgen rhyfeddol, cawn gipolwg ar y gymdeithas o’i gwmpas a dod i adnabod toreth o gymeriadau amrywiol a gwahanol iawn, heb sôn am ei storïau unigol.
Llwydda Jon Gower i greu byd go iawn ond un ffantasi ar yr un pryd, yn llawn cymeriadau o gig a gwaed sydd eto yn wahanol. Mae yma hiwmor a thristwch ynghyd â chariad a drygioni mawr, ond yr hyn a erys yn y cof ydy dychymyg Jon ei hun a’i ddawn ddiamheuol i adrodd stori. Fo ydy’r storïwr a chanddo fo mae’r ddawn a’r iaith gyfoethog.
Fel y dywed Miss Evans, ‘Mae pob llyfr yn agor drws, yn union fel allwedd.’ Da chi, agorwch y drws!
~Janet Roberts @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.