Yn y flwyddyn 2040 mae Cymru o dan warchae'r Brawd Mawr ac mae'r Gymraeg yn prysur ddiflannu o dan ei reolaeth hollbresennol. Ond yn y gogledd mae criw bach o bobl yn ceisio arbed eu treftadaeth a'u dyfodol.
Mam ofnus yw Llio, sy'n siarad a'r "Smotyn Bach" yn ei chroth. Trwy gyfrwng ei dyddiadur cawn gipolwg ar y Gymru newydd ac ar y tensiynau sydd rhyngddi hi a'i gwr, Sion. Mae popeth sydd o bwys iddi o dan fygythiad, felly mae'n gweithredu ar frys cyn iddyn nhw ddiflannu'n llwyr. Ond fe fydd hynny'n rhoi ei bywyd hi a "Smotyn Bach" yn y fantol.
Yn y flwyddyn 2040 mae Cymru o dan warchae'r Brawd Mawr ac mae'r Gymraeg yn prysur ddiflannu o dan ei reolaeth hollbresennol. Ond yn y gogledd mae criw bach o bobl yn ceisio arbed eu treftadaeth a'u dyfodol.
Mam ofnus yw Llio, sy'n siarad a'r "Smotyn Bach" yn ei chroth. Trwy gyfrwng ei dyddiadur cawn gipolwg ar y Gymru newydd ac ar y tensiynau sydd rhyngddi hi a'i gwr, Sion. Mae popeth sydd o bwys iddi o dan fygythiad, felly mae'n gweithredu ar frys cyn iddyn nhw ddiflannu'n llwyr. Ond fe fydd hynny'n rhoi ei bywyd hi a "Smotyn Bach" yn y fantol.
~Cyhoeddwr: Y Lolfa
Dyma olwg arswydus ar dynged ein gwlad. Gosodir y llyfr yn 2089 gyda phytiau o ddyddiadur menyw canol oed yn 2040. Mae yna gysgod Orwellaidd dros y byd sinistr hwn gydag adlais o Gymru hunllefau Islwyn Ffowc Elis. Mae Americana wedi trechu Cymreictod, wedi trechu Prydeindod hyd yn oed. Gwelwn y Gymraeg yn colli tir ac yna'n diflannu’n llwyr dan warchae'r ‘Hi’ hollbresennol. Er y drefn lem a’r rheolau newydd, mae yna griw bychan yn ceisio dal eu gafael ar eu diwylliant a’u hiaith.
Mae’r dyddiadur teimladwy yn taro ar yr angen cynhenid sydd ynom am barhad i’n cenedl a’n hiaith, ynghyd â’r angen naturiol i atgenhedlu i sicrhau parhad dynolryw. Clywn am griw o fenywod yn mynd ati i gynnal ysgol nos gudd. Ni chymhara’r ofn sydd arnynt o gael y gosb eithaf os cânt eu dal gyda’r ofn o golli iaith a llenyddiaeth eu gwlad. Siarad â’i baban yn ei chroth a wna’r prif gymeriad wrth ysgrifennu ei dyddiadur. Llais tyner mam yn llawn ofn am ddyfodol ei phlentyn mewn gwlad sydd yn prysur ddiflannu’n llwyr. Gofynnir cwestiwn iasol A fydd yna adeg pan fydd y byd wedi dirywio cymaint fel y byddai’n well pe na bai ei baban yn cael ei eni?
Diddorol nodi mai Hi ac nid ‘Ef’ yw’r Brawd Mawr hollbresennol sydd yn dal ei gafael. Criw o fenywod sydd yn mynd ati i gynnal yr ysgol gudd er mwyn ceisio sicrhau goroesiad y Gymraeg. Clywn am fam ac am fam-yng-nghyfraith y prif gymeriad a’u barn gadarn. Menyw ydyw’r prif gymeriad sydd yn peryglu ei bywyd ei hun, ei phlentyn a’i phriodas. Stori'r mamau ydy hon yn y bôn. Y menywod yw’r cymeriadau sy’n goroesi ac yn dioddef. Cymhara’r prif gymeriad ei hun (ac yn wir y Cymry oll) â Gwenllian, ferch Llywelyn - ‘Fe’i rheibiwyd o’i hiaith a’i hanes a’i hunaniaeth . . . Cenedl a Wenllianwyd ydyn ni bellach.’
Dyma olwg ddu o’r dyfodol, ond darlun sydd yn ein herio. Brithir y nofel â fflachiadau iasol o gyfarwydd. Fe glywn am y profion DNA, y CCTV, y globaleiddio didostur sydd yn sicr yn canu cloch. Nid ffuglen lwyr ydyw felly am fod y nofel yn sôn am bethau sydd dim ond ychydig gamau yn unig i ffwrdd o’n bywydau ni heddiw ‘“Couldn’t you have done somefing?” Dwi’n cofio gofyn yr un peth i mam ynghylch y Rhyfeloedd Olew . . . Doedd neb yn gweiddi’n ddigon uchel.’
Darogan y mae Lleucu Roberts. Mae hi’n pwyntio bys gan ddatgan os na wnawn ni ‘weiddi’n ddigon uchel’, ein plant fydd y rhai nesaf i ddioddef.
~Lois Barrar @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.