Another short novel in the Cyfres Copa series for older teenagers. Anji has suffered childhood and teenage years of abuse, but now suffers from guilt during a holiday in Rhyl.
Portread iasol o euogrwydd merch ifanc yn dilyn blynyddoedd trist o gamdriniaeth yn ystod plentyndod ac ieuenctid.
~Publisher: Y Lolfa
Dyma nofel, dywedir, sy’n addas i’w defnyddio yn yr ystafell ddosbarth, a does dim dwywaith na fydd hon yn esgor ar ymateb a thrafodaeth frwd.
Mae'r stori'n mynd â'r darllenydd i'r eithafion, lle mae merch yn llofruddio'i mam ac yna'n cael ei lladd mewn damwain. I mi, er bod y stori yn codi ias a diddordeb mae’r cynnwys yn anghredadwy ac felly mae'n medru bod yn anodd uniaethu â'r cymeriadau a chydymdeimlo â nhw. Er hynny, mae yma gyffro di-ben-draw ac yn sicr dyma nofel sy’n cynnig pynciau trafod elfennol megis euogrwydd, ymddygiad rhieni at blant a chosb. Gellid trafod y gosb eitha wrth i achos Ruth Ellis godi'i ben yn y stori fwy nac unwaith.
Mae’r nofel yn sicr o gydio yn nychymyg y plant hynaf – nid yw’n gyfrol hir iawn ac mae’r print yn ddigon bras. Mae’n siŵr fod yna nifer o blant ysgol gynradd sydd erbyn hyn yn darllen llyfrau i ddisgyblion yn eu harddegau ond dyma air o rybudd i rieni – NID yw’r nofel hon yn addas iddyn nhw, ar unrhyw gyfri. Er bod y stori'n cydio, gallai'r cynnwys godi ofn ar ddarllenwyr iau, neu ddarllenwyr sensitif.
~Sarah Down-Roberts @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.