A delightful story about the relationship of Dafydd and his busy father, for children under 7 years old. Illustrated by Jac Jones.
Mae Jac Jones yn adnabyddus fel awdur yn ogystal â dylunydd, ac enillodd wobr Tir na n-Og yn 1989, 1990 a 1998. Cipiodd Manon Steffan Ros yr un wobr yn 2010 am ei nofel Trwy’r Tonnau (Cyfres yr Onnen, y Lolfa) ac am yr eildro yn 2012 gyda Prism (Cyfres yr Onnen, y Lolfa).
Stori hyfryd am berthynas Dafydd a'i dad prysur.
Cyfuniad deniadol o stori annwyl Manon Steffan Ros a lluniau lliwgar Jac Jones sy'n dod â'r testun yn fyw i'r darllenwyr ifanc.
Mae Dafydd yn ceisio cael ei dad i wneud pethau e.e. chwarae pêl-droed, mynd at yr afon, ond mae ei dad yn rhy brysur wrth y gwaith tŷ.
Felly, mae Dafydd yn gwneud cuddfan yn y gwrych ac yn syrthio i gysgu. Pan mae ei dad yn gweiddi arno ei bod hi'n amser cinio, mae'n mynd i chwilio am Dafydd ac yn sylweddoli beth sy'n bwysig mewn gwirionedd.
Llyfr 32 tudalen, yn llawn lluniau lliw.
~Cyhoeddwr: Y Lolfa
Mae hwn yn llyfr anghyffredin ar sawl cyfri.
Mae’n llyfr am dad a mab a phrysurdeb domestig. Mae’n llyfr Cymraeg a Chymreig ei ddyluniad, a thu hwnt i stori gymharol syml mae yna ryw anesmwythyd ynglŷn ag o.
Fel tad sy’n darllen i’w feibion, mae’n braf cael llyfr sy’n portreadu dyn wrth ei waith o gwmpas y tŷ, yn glanhau, coginio a golchi’r dillad. Mae tadau felly’n bod ac mae stereoteipiau o bob math angen eu chwalu.
Fel person sy’n darllen gyda’i blant, mae’n braf medru mynd â nhw y tu hwnt i’r geiriau ar drywydd y storïau sy’n digwydd yn y cefndir. Mae hi mor braf darganfod y Ddraig Goch a Jac y Jwc yn llercian yn y cefndir hwnnw, bod enw Dafydd ar fwg a balwn a bod y rhestr siopa’n cynnwys ‘afalau, sebon, uwd (ych!)’.
Ac fel person sy’n anorfod yn darllen y llyfr ei hun, mae’n braf medru gwerthfawrogi safon y lluniau a synhwyro’r stori sydd rhwng y llinellau ac yn y gyfathrach rhwng llinellau’r testun a llinellau’r darlun. Mae rhywbeth na ddylen ni allu rhoi’n bys arno, mae’n debyg, yn yr is-destun yma. Mae tristwch affwysol yn llygaid y ddau. Oes yna ‘ysbryd’ yn ymddangos yng nghuddfan Dafydd ar t.14? Mae yna luniau o wraig ifanc a phlentyn ar y wal a mwg efo enw mam arno.
Ond yn bwysicach na dim gofynnodd Iago (3 oed) am y stori ddwy waith ar y noson gyntaf.
~R. Arwel Jones @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.