An original and colourful story about Alun the mischievous bear who creates havoc for many, including himself, whilst wearing his father's spectacles and driving his father's car; for 3-5 year old children. Cyhoeddwyd yn gyntaf yn Chwefror 2003.
Stori wreiddiol a lliwgar am Alun yr Arth drygionus yn creu llanast i sawl un, gan gynnwys ef ei hun, wrth iddo wisgo sbectol ei dad a gyrru car ei dad.
~Publisher: Y Lolfa
O diar, arth drwg iawn yw Alun, ac mae o mewn helynt ofnadwy yn y stori hon! Nid yw diwrnod Alun yn dechraun dda iawn tra oedd wrthin gwisgo esgidiau ei dad maen sathru ar ei deganau, ond nid ywn edifar gan ei fod yn meddwl mai teganau i fabi sydd ganddo. Mae Dad yn flin, ond fe fydd yn fwy blin fyth cyn diwedd y stori, oherwydd wrth gerdded or lolfa mae sbectol Dad yn syrthio a dyna lle mae hwyl Alun yn dechrau. Maen dringo i mewn i gar ei dad gwell ganddo chwarae efo pethau go-iawn, ac maer car yn dechrau symud Ar ei siwrnai mae Alun yn llwyddo i wylltio a chynhyrfu plismon, dynes lolipop ai fam ond maer tri yn meddwl mai tad Alun sydd yn gyrrur car, gan fod Alun yn edrych mor debyg iddo yn y sbectol.
Ond pan gyrhaedda Alun adre, gan feddwl mai ei dad fydd yn cael y bai i gyd, maer sbectol yn syrthio oi boced ac mae pawb yn gwybod pwy oedd yn gyrrur car! Bydd plant yn mwynhaur stori ddoniol hon yn fawr, ac yn darganfod nad ywn syniad da dynwared person arall!
~Tanis Jones @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.