A book of three stories about mischievous Nel, for readers between 7 and 9 years old, but can be enjoyed by all ages! "No, Nel!"
Mae Nel yn ferch ddireidus ac yn y gyfrol hon mae tair stori ddigri. Mae ei rhieni'n gorfod gweiddi "e;Na, Nel!"e; arni'n aml! Addas ar gyfer darllenwyr 7 i 9 oed ond i'w mwynhau gan blant o bob oed!
~Publisher: Y Lolfa
Cyfrol a fydd yn apelio at ferched yn bennaf yw hon ac yn cynnwys tair stori fer am Nel, y ferch fach ddireidus. Un stori fawr oedd bywyd Nel, o’r diwrnod y cafodd ei geni yn annisgwyl ar lawr yr eil duniau yn yr archfarchnad (a byth oddi ar hynny roedd y teulu’n cael disgownt ar duniau cawl tomato!). Mae gan Nel ddychymyg byw, mae’n hollol anhydrin ar brydiau – yn gallu creu hafoc, yn anghonfensiynol, yn chwareus ac yn anrhagweladwy, a’i hymddygiad weithiau yn ddigon i wylltio ei rhieni. Ond y mae hefyd yn gymeriad hoffus.
Cryfder y gyfrol hon yw ei bod mor Gymreig o ran cynnwys ac ieithwedd. Cyfeirir at stori Blodeuwedd a chymeriadau cyfarwydd fel Sali Mali a'r Dewin Dwl. Sonnir am artistiaid o Gymru fel Aneurin Jones, Kyffin Williams a Shani Rhys James. Ac onid yw’r gân y mae Nel yn ei chanu, ‘Mae gen i gariad / Sos coch yw hwnnw!’, yn ein hatgoffa o un o ganeuon Tony ac Aloma?
Cyn bwysiced hefyd yw gallu’r awdur i gyflwyno cyfoeth iaith i blant ifanc trwy’r cymariaethau a’r priod-ddulliau sy’n britho’r tudalennau, er enghraifft: Nel yn siffrwd ei hamrannau’n gyflym fel adenydd pilipala; y peiriant cymysgu bwyd yn troi a throi fel coesau balerina; gwallt Nel yn gyrls fel sbrings ar hen wely; Nel yn symud fel jeli mawr ar sgwter; brân yn crawcian; blaidd yn udo, a menyn ddim yn toddi yn ei cheg.
Roedd darllen hanesion Nel yn fy atgoffa am ferch fach ddrygionus o Sweden ddaeth yn enwog mewn llenyddiaeth plant, sef Pippi Långstrump, neu Pippi Hosan Hir.
Tybed a gawn ni fwy o lyfrau am hanesion Nel? Rwy’n siŵr y byddai’r merched bach wrth eu bodd.
~Menna Lloyd Williams @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.