A title in the short and fast-paced series Quick Reads. Oswald is a journalist who writes obituaries in newspapers. He is sacked from his job when he writes an obituary to his mothers boyfriend, who was still alive. He leads a lonely life and is obsessed with funerals. This story is about his attempt to free himself from his obsession.
Teitl yn y gyfres o gyfrolau byr a chyflym Stori Sydyn. Newyddiadurwr yw Oswald sy'n ysgrifennu teyrngedau mewn papur newydd i'r ymadawedig. Caiff y sac o'i swydd wedi iddo lunio teyrnged i gariad ei fam nad oedd wedi marw. Mae'n byw bywyd unig gan ddilyn ei obsesiwn ag angladdau. Dyma stori ei ymdrech i ryddhau ei hun o'i obsesiwn.
~Publisher: Y Lolfa
Anodd yw dychmygu byd heb hiwmor – a diolch am hynny. Mae chwerthin fel chwa o awyr iach yn y gwanwyn, a gall gwên godi calon. Rhaid cydnabod mai tipyn o gamp yw ceisio pwyso a mesur yr hyn sy’n peri i rywun wenu neu chwerthin. Gall gair, gweithred a sefyllfa esgor ar ddoniolwch, ond tasg amhosibl yw cofnodi cynhwysion digrifwch ar bapur ar ffurf rysáit.
Edwino wnaeth y cyfleoedd i ddod ynghyd er mwyn clebran ac adrodd storïau yn ein cymunedau yn y blynyddoedd diweddar, a chiliodd y cymeriadau ffraeth o'n cymdeithas. Pleser, felly, oedd cwrdd ag Oswald Myrddin Jones yn un o gyfrolau Stori Sydyn 2014. Cafodd Lleucu Roberts afael ar nifer o elfennau digrifwch a llwyddodd i’w trafod yn ddeheuig, gan greu cymeriad credadwy.
Amlygir ei chrefft o drin geiriau yn gyson a defnyddir cymhariaeth a dihareb yn gelfydd. Lluniodd olygfeydd cofiadwy a phortreadau cryno. Nid oes angen llawer o ddychymyg i weld Oswald yn y gegin yn blasu’r bwydydd o ben draw’r byd ond a ddaeth mewn gwirionedd o fwyty Indiaidd cyfagos. Mae ei ymateb i’r danteithion dieithr a’r sgwrs ag Amy yn cymell gwên. Cynildeb yr hiwmor yn aml yw’r allwedd i lwyddiant y gyfrol.
Awgrymir natur ac ymddygiad Oswald gan gyfeiriadau digon di-nod ar un olwg ond cyfeiriadau sy’n portreadu’r cymeriad i’r dim. Meddyliaf yn arbennig am ei ymdrech i blygu ei gôt ar y trên, y gofal wrth fesur faint o siwgwr mae'n ei roi yn ei de, a’r ffaith ei fod yn ddyn un siwmper. Mae dawn Lleucu Roberts i sylwi ar y manion hyn yn fodd i’r darllenydd ddod i adnabod Oswald yn well.
Plethwyd y digri a’r difri er mwyn trafod gwirioneddau am gyfrinachau ac am bethau pwysig bywyd, a chyflwyno ambell gyd-ddigwyddiad anesboniadwy. Crybwyllir bod gan Oswald wersi i’w dysgu. Hyderaf y daw cyfle eto i gwrdd â’r cymeriad o Abertawe ag inc yn ei waed. Gall Oswald brofi’n olynydd teilwng i gymeriadau cofiadwy a luniwyd gan awduron megis Harri Parri a Wil Sam.
~Trefor Jones @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.