A contemporary, sensitive novel portraying Non, a young girl coming to terms with astounding news about her father, for 12-15 year old readers.
Un o nofelau ar gyfer 12-15 oed. Mae'n adrodd hanes Non sy'n gorfod dod i delerau a newyddion syfrdanol am ei thad. Nofel sensitif, gyfoes, sy'n codi nifer o gwestiynau.A contemporary, sensitive novel portraying Non, a young girl coming to terms with astounding news about her father, for 12-15 year old readers.
~Publisher: Y Lolfa
Ar ddiwrnod pen-blwydd Non yn 16 oed caiff ei thad ddamwain ddifrifol yn ei waith. Sylwa Non nad yw grŵp gwaed ei thad yr un grŵp â hi ac oherwydd prosiect a wnaeth yn yr ysgol mae hi’n sylweddoli nad yw'n dad biolegol iddi. Mae gweddill y stori yn olrhain taith boenus ac emosiynol Non i ddarganfod ei gwir wreiddiau.
Mae’r nofel yn dechrau gydag arddeliad, yn dal diddordeb y darllenydd yn syth, ac yn parhau i droi’r tudalennau hyd y diwedd. Llwydda Gwenno Hughes i fynd dan groen merched yn eu harddegau, ac mae hi’n ymwybodol o’r ddrama feunyddiol sydd yn eu poeni ac yn llywio eu bywydau. Mae hi’n delio’n onest ac yn ddiflewyn-ar-dafod gyda bywyd cyfoes – colur, gwallt, ffonau symudol, alcohol a rhyw. Mae hi hefyd yn trin pynciau anodd a dirdynnol mewn dull aeddfed a sensitif, heb fod yn sentimental nag yn nawddoglyd. Mae’r arddull ysgrifennu yn weledol iawn, a’r stori yn ymagor fel ffilm; mae yma eirfa goeth a phriod-ddulliau lliwgar.
Tua diwedd y nofel mae Non yn penderfynu ymgyfeillachu â’i thad naturiol, ac mae ei hagwedd bryd hynny, yn dweud nad yw o fusnes i’w mam a’i thad, yn sicr o fod yn ysbrydoliaeth ac yn fodd i roi hyder i bobl ifainc eraill yn yr un sefyllfa sy’n chwilio am eu rhieni biolegolwaed.
~Eiry Palfrey @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.