An exciting story by master novelist Gareth F. Williams for Year 7-9 pupils, with many hair-raising occurrences to keep readers looking over their shoulder time and time again ...
Nofel ar gyfer disgyblion Blynyddoedd 7-9 i'w darllen fel dosbarth neu fel unigolion. Mae Gareth F. Williams yn feistr ar storiau sy'n codi gwallt eich pen a bydd Hwdi yn gwneud i chi edrych dros eich hysgwydd dro ar ol tro ...An exciting story by master novelist Gareth F. Williams for Year 7-9 pupils, with many hair-raising occurrences to keep readers looking over their shoulder time and time again ...
~Publisher: Y Lolfa
Cyfres wedi'i hanelu at ddarllenwyr rhwng 11 a 14 oed yw Cyfres Mellt. Mae hi’n frith o nofelau gafaelgar sydd yn denu diddordeb.
Ac i ti’r darllenydd, dydi Hwdi ddim yn siomi ac mae hi’n sicr o dy adael ar bigau’r drain ar ddiwedd pob pennod.
Mae Lois a’i mam, Buddug, yn symud i dŷ newydd, ond cyn pen dim mae’r ferch yn taeru bod dihiryn yn llechu y tu ôl iddi neu wrth ei hochr. Mae pawb yn meddwl bod Lois yn un od ac nid yw’n cael llawer o gydymdeimlad gan ei ffrindiau. Wrth iddi rygnu drwy’r act fawr fod popeth yn iawn, mae pethau’n mynd o ddrwg i waeth ac nid yn unig dychmygu rhywun yn ‘lyrcio’ mae hi, ond daw llais ‘hen ddyn powld’ dros ei ffôn hefyd un diwrnod. Pwy gebyst yw’r dihiryn? Ai rhyw hen byrf yw hwn? A sut goblyn gall Lois gael ei wared?
O weld y teitl mae rhywun yn tueddu i feddwl mai nofel ystrydebol yw hi am blant drwg ar berwyl, ond mae hon yn llawer mwy na hynny. Mae Hwdi yn un sydd yn dy yrru di i edrych dros dy ysgwydd wrth ddarllen, ond go brin y bydd neb yn dychmygu’r diweddglo dychrynllyd hwnnw. Dyma sy'n gwthio’r nofel i’r entrychion.
Da ti, cofia gloi'r drws cyn ei darllen!
~Llinos Griffin @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.