An exciting novel about four youngsters who run away from a troubled home, only to discover that they are forced to face greater problems.
Nofel gyffrous yn dilyn pedwar yn ffoi o'u cartref sy'n llawn problemau ond yn darganfod bod bywyd oddi cartref yn eu gorfodi i wynebu problemau gwaeth.An exciting novel about four youngsters who run away from a troubled home, only to discover that they are forced to face greater problems.
~Publisher: Y Lolfa
Dyma nofel ddarllenadwy iawn yn y gyfres Mellt, sef cyfres sydd wedi cael ei hanelu at gyfnod allweddol 3 sef disgyblion rhwng 11 a 14 oed.
Hanes pedwar plentyn a geir yma, Mags (14 oed), Ari (13 oed), Nel (10 oed) a Cai (8 oed) a dyw bywyd ddim yn hawdd i’r pedwar. Does yna ddim sôn am dad ar yr aelwyd ac nid yr un tad sydd gan bob un o’r plant. Digon caled, felly, yw bywyd y fam a’r unig ffordd y mae hi’n medru dygymod â'r sefyllfa yw trwy yfed. Droeon mae’r pedwar yn gorfod edrych ar ôl eu hunain a hynny yn aml pan nad oes bwyd yn y tŷ na llawer o arian i dalu amdano.
Dyma nofel ddigon cignoeth am bedwar sy’n crafu byw. Ari sy’n derbyn y cyfrifoldeb – mae gan Mags fwy o ddiddordeb mewn siarad ar y ffôn gyda’i ffrindiau a choluro, mae Nel yn bictiwr o ddiniweidrwydd a Cai yn medru bod yn hynod o ddrwg. Er bod yna wahaniaethau mawr rhyngddynt mae’r pedwar yn gytûn na ddylid sôn wrth neb am sut y maent yn byw adre, er bod y ddynes drws nesaf ar bigau’r drain eisiau cael gwybod eu hynt a’u helynt.
Un diwrnod, wedi disgwyl a disgwyl, does na ddim sôn am y fam yn dod adre ac mae’r bwyd yn hynod brin. Yn waeth byth, mae'r afr yn sâl a rhaid galw’r milfeddyg, er nad oes arian i’w dalu. Beth petai rhywun yn dod i wybod yn union sut mae pethau ar y plant ac yn adrodd yr holl hanes i’r gwasanaethau cymdeithasol? Wrth i'r sefyllfa waethygu, doedd dim amdani ond mynd liw nos i Gaerdydd. Cofiai Ari, druan, fod ei fam yn ystod rhyw gyfnod o feddwdod wedi sôn am Wncwl Jeremy yng Nghaerdydd. Ond amser a ddengys a yw e’n gallu helpu’r pedwar. Mae’r digwyddiadau yng Nghaerdydd yn llawn cyffro ac ofn – fedrwch chi ddim roi’r nofel naill ochr!
Mae yna nifer o themâu yn y nofel hon. Ffyddlondeb yw’r un pennaf ac mae gweld y pedwar plentyn mor driw i’w gilydd ac i’w mam yn dod â deigryn i’r llygad. Dyma nofel sydd wedi’i hysgrifennu yn gelfydd ac y mae’n sicr o ennyn sawl trafodaeth yn yr ystafell ddosbarth.
~Sarah Down-Roberts @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.