A collection of twelve short stories for adults by renowned author, Caryl Lewis. 'Plu' (Feathers) is a theme that links these stories together, such as 'Elyrch' (Swans) and 'Sguthan' (Wood Pigeon).
Dyma ddeuddeg o storiau cyfareddol sy'n darlunio'r berthynas rhwng dyn a'i gyd-ddyn. Gyda natur yn gefnlen a hwnnw'n newid o dymor i dymor, mae'r plu'n llinyn cyswllt sy'n gwau drwy'r storiau, megis 'Elyrch' a 'Sguthan', gan oglais a swyno dychymyg y darllenydd.A collection of twelve short stories for adults by renowned author, Caryl Lewis. 'Plu' (Feathers) is a theme that links these stories together, such as 'Elyrch' (Swans) and 'Sguthan' (Wood Pigeon).
~Publisher: Y Lolfa
Wrth gyhoeddi ei gwaith diweddaraf, mae Caryl Lewis wedi gwireddu un o’i huchelgeisiau fel llenor. A hithau bellach wedi ennill ei lle fel un o’n prif nofelwyr cyfoes yn y Gymraeg, Plu yw’r gyfrol gyntaf o straeon byrion iddi ei hysgrifennu. Deuddeg stori sydd ynddi, yn ddeuddeg portread o unigolion sy’n ymdrin â phrofiadau sydd wedi effeithio’n ddwfn arnynt, profiadau y gall y mwyafrif helaeth ohonom uniaethu â nhw – afiechydon a marwolaethau, unigrwydd, colled, hapusrwydd, ac atgofion am blentyndod a charwriaethau.
Does dim amheuaeth fod gan Caryl Lewis ddawn disgrifio penigamp, a chredaf mai ei defnydd o ddelweddau o fyd natur yw gogoniant Plu. Er bod peryg iddynt gael eu pentyrru ar adegau, caiff y darllenydd ei gyfareddu gan ddelweddau gwreiddiol a chlyfar sy’n llifo trwy’r straeon gan greu darlun aeddfed a synhwyrus o’r cymeriadau. Er eu bod yn unigolion a chanddynt brofiadau unigryw a phersonol, trwy gyfrwng y disgrifiadau hyn ceir syniad o ryw fath o gymuned y maent yn gallu perthyn iddi, a chynigia hynny lygedyn o obaith yng nghanol unigedd bywyd. Llais yr awdures a glywir yn y mwyafrif o'r straeon, a’i defnydd o iaith raenus yn chwa o awyr iach. Er bod iaith Caryl Lewis yn safonol nid yw’n uchel-ael, ac o ganlyniad i hynny, mae’n tynnu’r darllenydd i ganol y dweud.
Yn dilyn y llwyddiant a gafodd Caryl Lewis gyda Martha, Jac a Sianco, mae’n anodd peidio â chymharu ei gweithiau diweddarach â’r nofel honno, ac mae yn y gyfrol hon adleisiau cryf ohoni. Mae’n amlwg fod yr awdures yn hynod o gartrefol wrth bortreadu cefn gwlad Cymru, yn bobl ac arferion, mewn modd byw a theimladwy, a pherthyn i’r straeon hyn symlrwydd sy’n galluogi darlleniad rhwydd. Ond teimlaf ar brydiau fod diffyg cyffro a digwydd ynddynt o’u cymharu â Martha, Jac a Sianco, sef elfennau angenrheidiol er mwyn annog y darllenydd yn ei flaen. Ac er bod modd i’r straeon hyn sefyll fel darnau unigol ac annibynnol, mae hyn hefyd yn golygu ei bod hi’n dra anodd gwahaniaethu rhyngddynt ar ôl darllen y gyfrol gyfan. Heb ddatgelu’r stori, ‘Yr Wy’ yw’r un fwyaf cofiadwy i mi, a hynny am fod ei diweddglo yn rhoi iddi fwy o arwyddocâd, yn fy marn i, na’r gweddill.
Ar y cyfan, mae Plu yn gyfrol rhwydd i’w darllen gyda’i hiaith raenus, ei disgrifiadau byw a’i phortreadau synhwyrus. Ond efallai y dylid darllen y straeon fesul un, fesul tipyn, er mwyn gwerthfawrogi’r gyfrol ar ei hyd fel cyfanwaith.
~Lois Dafydd @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.