One day - quite recently, in fact - a young boy named Derwyn lived in an old cottage in the woods. His parents were both teachers, his mother taught in the primary school and his father at the secondary school, but it was often difficult to tell which one complained the most.
Un tro - yn reit ddiweddar, a dweud y gwir - roedd bachgen ifanc o'r enw Derwyn yn byw efo'i rieni mewn hen fwthyn yn y goedwig. Dysgai ei fam yn ysgol gynradd a'i dad yn yr ysgol uwchradd. Anodd iawn oedd dweud pa un ohonyn nhw oedd yn cwyno fwyaf.
~Publisher: Y Lolfa
Y tro nesa yr af am dro mewn coedwig fydda i'n siŵr o deimlo braidd yn anesmwyth. Oherwydd y goedwig, a’r hyn ynddi, yw un o brif gymeriadau’r nofel hon, ac fel mae’r cymeriadau eraill yn dweud yn gyson, mae’r goedwig yn ‘crîpi’.
Ar un wedd, stori syml yw hon am Derwyn a’i dad Tom sy’n byw mewn bwthyn ar gyrion y goedwig. Mae’r teulu mewn trafferthion ariannol ers marw mam Derwyn ac mae’r bwthyn yn prysur ddadfeilio. Yn y dref gerllaw mae Syr Richard Collins wedi penderfynu chwalu’r goedwig ac adeiladu archfarchnad ar y safle. Ond er mwyn gwneud hynny mae’n rhaid naill ai prynu’r bwthyn neu berswadio Derwyn a’i dad i adael. Stori syml am y da a’r drwg, y dieflig a’r diniwed a geir yma.
Ond mae yna haen ychwanegol, ddifyr iawn, i’r nofel – elfen o ryw hud cyntefig. Mae yna ferch sydd â’r gallu i weld pethau na all eraill eu gweld, gallu mae hi wedi'i etifeddu gan ei hen fam-gu Romani. Mae yna hefyd leisiau yn galw o’r goedwig gyda’r nos, menyw ddieflig â thafod wedi fforchio sy’n gallu gwneud i nadroedd ymddangos o nunlle, gwaed sy’n ymddangos yn annisgwyl, tylluanod sy’n dial ar ddrwgweithredwyr a’r dyn gwyrdd ei hun, sy’n ymddangos yn y goedwig pan ddaw rhywun neu rywbeth i'w bygwth.
Mae yna hefyd adegau ysgafnach, llai arswydus, ac mae’r disgrifiadau o Jaspar Jenkins a’i arfer anffodus o rechu pan mae o dan bwysau yn fythgofiadwy.
Un o gryfderau’r nofel yw bod yr awdur yn ymwrthod â’r demtasiwn i glymu popeth at ei gilydd yn dwt ar y diwedd. Does yna ddim esboniad llwyr o bob dim sydd wedi digwydd ac oherwydd hynny mae ychydig o’r teimlad anesmwyth, annifyr yn parhau wedi cau cloriau’r llyfr.
~Cerian Arianrhod @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.