When Tomos Ap receives a phone call from his adopted father asking him to return home, he suspects there's a plot to force him to run the familial farm. But when Nature tries to take over, he has more than sheep dipping to worry about. This novel won Ifan Morgan Jones the Daniel Owen Memorial Prize at the 2008 National Eisteddfod.
Pan gaiff Tomos Ap alwad ffon gan ei dad mabwysiedig yn ei alw adref, mae'n amau mai cynllwyn yw'r cyfan i'w orfodi i gymryd gofal o'r fferm deuluol. Ond gyda Natur ei hun yn ceisio prynu'r lle, mae ganddo fwy na dipio defaid i boeni amdano. Nofel arobryn Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Caerdydd a'r Cylch 2008.
~Publisher: Y Lolfa
Clywsoch ddywedyd bod y llyfr hwn yn ymdebygu i waith Terry Pratchett, ac yn Fabinogi modern. Ychwanegwch at hyn The Lion, the Witch and the Wardrobe (y porthwll), Star Wars (y cryman hud yw’r lightsabre) a Dr Who. Mae’n debyg fod yr awdur yn ffan o’r Arglwydd Amser ac mae darllen ei lyfr dipyn bach fel gwylio cyfres o Dr Who.
Mae’r penodau’n faith ac yn manwl droelli o sefyllfa i sefyllfa gan gwrdd â bodau arallfydol y Fabinogwlad. Tomos ap yw’r Dr ac mae Angharad yn rhyw Billie Piper o gymeriad wrth ei ochr. Mae’r mab yn dychwelyd yn anniddig o Gaerdydd, i Ben-y-bryn, fferm ei blentyndod. Ond tila yw’r cyfrifoldeb o redeg fferm o’i gymharu â’r cyfrifoldebau dychrynllyd sy’n ei wynebu wrth groesi’r porthwll, cyn dychwelyd i warchod treftadaeth chwedlonol Cymru. Mae Tomos ap a’i ffrindiau’n dod yn rhan annatod o’r chwedl ‘a does nam denig nes’ eu bod wedi cwblhau eu rhan yn y stori a delio gyda natur ei hun, ar ffurf Cyrn-y-nos.
Mae’r bydol a’r arallfydol yn bodoli ochr yn ochr â’i gilydd mewn ffordd realaidd sydd hefyd yn afreal; nid dychmygu oedd Iolo Morganwg – aeth yntau i’r un byd â Tomos ap gan ddod â’r Archdderwydd a’i gybôl yn ôl i ni, cyn gweld mwg llosgfynydd Laki fel ‘niwl dros Ddyfed’ yn 1783.
Mae’r cyfan yn sinematig iawn. Yr hyn sy’n digwydd sy’n tra-arglwyddiaethu. Nid plymio i ddyfnderoedd pob cymeriad yw byrdwn y nofel hon. Nid dyna flaenoriaeth yr awdur. Mae llif yr ysgrifennu’n rhwydd, a’r golygfeydd yn gwibio’n rhibidirês wrth ddarllen. Eisteddwch yn ôl, a mwynhewch – fel petaech chi’n gwylio Dr Who. Cewch ddadansoddi wedyn; os mynnwch.
~Siân Reeves @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.