A novel in the short and fast-paced series Quick Reads. This is a mystery story about a lawyer called Jackie Jones who lives her social life on the internet. She has a lot of fun on social network sites, but is she aware of all the dangers ... ?
Nofel yn y gyfres o gyfrolau byr a chyflym Stori Sydyn. Stori ddirgelwch yw hon am y gyfreithwraig Jackie Jones, sy'n byw ei bywyd cymdeithasol ar y we. Er cymaint yw'r hwyl mae'n ei gael ar wefan rhwydweithio cymdeithasol mae mewn peryg o golli llawer mwy ...
~Publisher: Y Lolfa
Mae denu pobl i ddarllen llyfr yn mynd yn fwyfwy anodd y dyddiau hyn, gyda’r holl ddatblygiadau ym maes technoleg yn cynnig ffyrdd gwahanol o ddysgu a hamddena, a chymaint o bethau eraill i fynd â bryd pobl. Cyfres a gyflwynwyd i geisio annog pobl nad ydynt yn darllen fel arfer i wneud hynny yw cyfres Stori Sydyn, sy’n gynllun ar y cyd rhwng Sgiliau Sylfaenol Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru. Mae’r llyfrau byrion hyn wedi’u hysgrifennu gan awduron poblogaidd i ennyn diddordeb darllenwyr newydd, ailgynnau’r diddordeb ymysg rhai a arferai ddarllen ac unrhyw un sydd am lyfr y gellir ei ddarllen yn sydyn.
Nofel fer, gyffrous, gan tudalen yn y gyfres hon yw Jackie Jones gan Caryl Lewis. Cyfreithwraig lwyddiannus yw Jackie sydd wedi datblygu enw iddi’i hun am ei gallu i amddiffyn drwgweithredwyr yn llwyddiannus. Ond er ei gyrfa ddisglair, nid yw pethau cystal yn ei bywyd personol. Mae ei phriodas newydd ddod i ben, mae ei ffrind gorau yn orddibynnol arni ac mae ei chyd-weithiwr yn dechrau cymryd diddordeb ynddi ar lefel bersonol. Ac nid yw’r ffaith ei bod hi’n llwyddo i sicrhau rhyddid i lawer o ddrwgweithredwyr yn gwneud Jackie yn boblogaidd gan bawb.
Cefais flas ar y nofel fel holl nofelau Caryl Lewis mae wedi’i sgwennu’n dda ac yn ddifyr. Mae yma stori gref sy’n cydio yn y dychymyg, yn gafael o’r cychwyn ac ro’n i’n awyddus i wybod beth oedd yn mynd i ddigwydd nesaf. Mae’r nofel yn darllen yn rhwydd ac mae yna bethau annisgwyl yn digwydd sy’n cadw rhywun ar flaenau ei draed. Yn naturiol, o gofio diben y gyfres, mae’r stori’n gymharol syml ond nid yw hyn yn tynnu dim oddi ar y nofel gall unrhyw ddarllenydd ei mwynhau, o’r sawl sy’n troi at lyfr am y tro cyntaf ers hydoedd i’r darllenydd profiadol sydd am dreulio awr neu ddwy yng nghwmni llyfr difyr. Os oes gwendid o gwbl, ro’n i’n teimlo braidd fod pethau’n cael eu datrys yn rhy gyflym a chyfleus ar ddiwedd y stori a’r darnau’n disgyn i’w lle yn rhy hawdd rywsut. Ond eto, o gofio natur a diben y gyfres, ac mai nofel fer yw hon, mae’n debyg fod hynny i raddau yn anochel. Ond mae’r nofel yn werth ei darllen, yn gyffrous, ac am £1.99 yn unig, yn fargen a hanner.
~Nest Gwilym @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.