The second in the 'Cyfres y Dderwen' series of challenging novels aimed at teenagers, suitable also for adults. This book is a collection of monologues, portraying different characters' views on the same events, all leading to an intense finale. It includes themes that young people can relate to.
Yr ail gyfrol yng Nghyfres y Dderwen, sef nofelau heriol ar gyfer yr arddegau hwyr ac yn addas i oedolion yn ogystal. Cyfres o ymsonau sydd yma yn dangos ymateb y cymeriadau i'r un digwyddiadau, a'r cyfan yn cyrraedd diweddglo dirdynnol. Mae'n cynnwys themau cyfoes a pherthnasol i fywyd pobl ifainc.
~Publisher: Y Lolfa
Anaml y mae rhywun yn cael y pleser o ddarllen nofel sy’n amhosib ei rhoi i lawr. I mi, profiad felly oedd darllen Deryn Glân i Ganu gan Sonia Edwards – bron nad oedd y tudalennau’n troi eu hunain wrth i mi ysu am gael gwybod beth fyddai tynged cymeriadau’r nofel hon.
Cyfres o ymsonau yw’r nofel, yn plethu’n gywrain ac yn gudd ar y dechrau nes iddi ddod i'r amlwg eu bod i gyd yn llinynnau o'r un cyfanwaith celfydd. Mae’r digwyddiadau’n neidio o lais i lais ac o gyfnod i gyfnod, a gwelwn fod gan bob cymeriad ei gyfrinach ei hun – does dim llawer o ‘adar glân’ yn y nofel hon.
Mae euogrwydd a byw gyda chanlyniadau eich gweithredoedd yn themâu canolog i’r plot. Mae digwyddiadau a ddylai fod yn ddiogel ym mhlygion y cof yn gallu dod yn ôl i’n dychryn. Mae cymeriadau’r nofel yn gredadwy a’r iaith yn taro deuddeg – hawdd yw credu ym modolaeth y trueiniaid hyn. Er bod rhan helaeth o’r nofel wedi'i lleoli mewn ysgol, nid nofel am ysgol mohoni'n unig, o bell ffordd. Mae Sonia Edwards wedi llwyddo i ysgrifennu nofel gyfoes sy’n ymdrin â materion oesol.
Buan iawn y daw’r darllenydd i arfer â’r naid o gymeriad i gymeriad ac rwyf yn sicr fod hon yn nofel fydd yn apelio at garfan eang o oedolion Cymru. Gair o gyngor, fodd bynnag; wrth i chi ei chodi i’w darllen am y tro cyntaf, gwnewch yn siŵr fod gennych ddigon o amser – mae hi’n anodd iawn i’w rhoi i lawr . . .
~Sioned Mair Jones @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.